Daniel Rodriguez
Mae rapiwr 28 mlwydd oed o Lundain wedi ei ddedfrydu i 16 mlynedd o garchar, wedi iddo hudo merched ysgol ar y cyfryngau cymdeithasol cyn ffilmio ei hun yn cael rhyw gyda nhw.

Fe ddefnyddiodd Daniel Rodriguez, neu ‘Grymey D’ i’w ffans yn y byd rapio, y cyfryngau cymdeithasol i gysylltu gyda’r merched a’u gwahodd i’w gartref.

Cafodd y ffilmiau yn dangos y rapiwr yn cael rhyw gyda’r merched eu canfod mewn teclynnau yn ei lofft.

Cafodd ei ddedfrydu yn euog o 15 o gyhuddiadau yn Llys y Goron Wood Green, gyda’r Barnwr Joanna Greenberg QC yn dweud ei fod wedi targedu merched ifanc yn fwriadol er mwyn “ymgymryd â ffantasïau rhywiol gwyrdröedig”.