Mae teigrod mewn parc bywyd gwyll yn Beijing wedi lladd un ddynes ac anafu un arrall, pan wnaethon nhw gamu allan o’u car yn ardal y cathod.

Fe neidiodd teigr ar un o’r merched wedi iddo ddod allan o’r car yr oedd hi’n teithio ynddo wrth fynd ar daith o gwmpas Wildlife World Badaling Beijing ddydd Sadwrn.

Fe gafodd yr ail ddynes ei lladd gan deigr arall wedi iddi hi gamu allan o’r car er mwyn ceisio helpu ei ffrind.

Mae llywodraeth ardal Yanqing wedi cadarnhau fod yr ymosodiadau wedi digwydd yn y parc wrth droed Wal Fawr China. Ychydig o fanylion eraill sydd, dim ond fod un o’r merched yn derbyn triniaeth.

Mae ymwelwyr yn cael gyrru eu cerbydau eu hunain o gwmpas y parc, ond mae yna reolau llym na chawn nhw ddod allan o’u ceir mewn rhai ardaloedd o’r parc.