Mae Llywydd newydd y Llyfrgell Genedlaethol am weld y lle’n dod yn rhan ganolog o “hunaniaeth Cymru” yn y cyfnod ar ôl y bleidlais i adael Ewrop.

Yn ei sylwadau agoriadol i Fwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell ddydd Gwener, meddai’r cyn-Aelod Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas: “Yn dilyn y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd fis yn ôl ymddengys bod yr holl sylw yn troi yn awr at ail-ddiffinio Prydain ar ffurf ffederal.

“Os yw Cymru, yn unol â dymuniad Prif Weinidog Cymru am ddatblygu ei hunaniaeth ei hun o fewn y wladwriaeth ffederal hon mae angen i’w sefydliadau cenedlaethol chwarae rhan ganolog yn nhwf y genedl”.

“Er pwysiced y sefydliadau cenedlaethol eraill yn y broses yma mae angen cydnabod bod y Llyfrgell Genedlaethol yn gwbl unigryw,” meddai Rhodri Glyn Thomas wedyn. “Y Llyfrgell yw ceidwad gorffennol y genedl, yn y fan hyn y mae ein presennol yn cael ei gofnodi a dyma hefyd lle gallwn ganfod yr ysbrydoliaeth ar gyfer ein dyfodol”.

“Nid mater o drefn wleidyddol yn unig  yw creu gwladwriaeth federal, mae angen i’r pedair gwlad ddatblygu ac amlygu eu hunaniaeth. Gellid dadlau bod Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi gwneud hyn i raddau llawer iawn mwy na Chymru. Os na fydd ar wahanrwydd Cymru yn eglur bydd yn ddim mwy nag atodiad i Loegr a byddwn yn dychwelyd at y disgrifiad ystrydebol hwnnw “ar gyfer Cymru gweler Lloegr.

“Y Llyfrgell Genedlaethol yw’r allwedd i droi dyheuadau gwleidyddol yn realiti ac i ganiatau i Gymru sefyll ochr yn ochr a’r gwledydd eraill fel rhan o’r Deyrnas Unedig ar ei newydd wedd,” meddai Rhodri Glyn Thomas.