Mae beth bynnag154 o bobol wedi’u lladd, a 124 arall ar goll, yn dilyn cyfnod o law trwm iawn yn China yn gynharach yr wythnos hon sydd wedi achosi i gartrefi gael eu chwalu yn sgil llifogydd a thirlithriadau.

Mae llywodraeth y wlad yn dweud fod cymaint â 400,000 o bobol wedi cael eu symud o’u cartrefi, ac mae’r dalaith ogleddol, Hebei, ydi’r un sydd wedi’i tharo waetha’.

Mae pobol leol yn dweud mai’r hyn sydd i gyfri’ am y marwolaethau a’r llifogydd ydi methiant amddiffynfa ar lan un afon.

Ond mae pentrefwyr hefyd wedi cwyno wrth y wasg a’r cyfryngau lleol na chawson nhw rybudd digonol gan yr awdurdodau fod dwr yn cael ei ollwng allan o argae ymhellach i fyny’r afon.