Mae dyn 55 oed yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio dyn 52 oed yn dilyn ffrwgwd yng Nghaerlŷr.

Bu farw David Cooley, 52, yn yr ysbyty ddydd Iau, dridiau wedi’r digwyddiad y tu allan i dafarn King Richard III yng nghanol y ddinas.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol wedi’r ffrwgwd, a’i arestio ar amheuaeth o lofruddio yn ddiweddarach.

Mae ail ddyn 47 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.