Mae dyn 39 oed o Brestatyn wedi cael ei gyhuddo o geisio cipio plentyn ac o yfed a gyrru.

Cafodd y dyn ei arestio yn Neiniolen am 7.15 nos Wener.

Mae’n parhau yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos gerbron ynadon yn Llandudno ddydd Llun.