Mae 73 o bobol wedi’u lladd yn Sri Lanka, yn dilyn cyfres o dirlithriadau.

Mae’r chwilio yn parahau wedi i dyddiau o dirlithriadau yn dilyn glaw trwm yn y brifddinas, Colombo, a’r ardal o’i chwmpas.

Mae miloedd o dai wedi’u heffeithio, mae tua 243,000 o bobol mewn llochesi dros dro, er bod arwyddion bellach fod y glaw yn arafu.

Mae milwyr yn rhan o’n gwaith o chwilio am bobol sydd ar goll dan y mwd yn rhanbarth Kegalle, lle llyncwyd tri phentre’ ddydd Mawrth diwetha’. Mae 21 o bobol wedi marw yno, meddai’r awdurdodau, ac mae 123 arall yn dal i fod ar goll.