Roedd Aled Roberts yn un o bump o ASau'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad diwethaf
Fory fydd y diwrnod tyngedfennol yn y ras i’r Cynulliad, wrth i’r etholwyr fynd i’r blychau pleidleisio i ddewis y blaid maen nhw am weld yn rheoli ym Mae Caerdydd ar ôl 5 Mai.

Ond yn ôl Aled Roberts o’r Democratiaid Rhyddfrydol mae’n debyg y bydd y dyddiau yn dilyn yr etholiad cyn bwysiced â’r bleidlais ei hun – gan mai dyna phryd y mae’r llywodraeth nesaf yn debygol o gael ei ffurfio.

Ar hyn o bryd dyw’r polau ddim yn darogan mwyafrif i unrhyw blaid, gan olygu y byddai angen i’r pleidiau gydweithio neu hyd yn oed glymbleidio er mwyn ffurfio llywodraeth.

“Mae’r pythefnos yna ar ôl yr etholiad yn mynd i fod yn bwysig iawn,” meddai’r ymgeisydd yn rhanbarth Gogledd Cymru wrth golwg360.

“Beth fydd yn rhaid i bob plaid wneud i ryw raddau yw gweld sut maen nhw’n mynd i gydweithio, ac os ydi o’n bosib iddyn nhw gytuno ar raglen ar gyfer y pum mlynedd yna.”

Her gan UKIP

Fe gyfaddefodd ei fod e’n bersonol yn wynebu brwydr galed i gadw gafael ar ei sedd ranbarthol yn y gogledd fodd bynnag, yn sgil twf yng nghefnogaeth UKIP.

“Ydw, yn amlwg – mae’n rhaid i ni wella ar ein perfformiad o ran yr etholiad cyffredinol,” meddai Aled Roberts.

“Ond dw i’n meddwl fod pobol yn dechrau gweld ein dylanwad ni fel y grŵp lleiaf o fewn  y Cynulliad a dweud y gwir, ein bod ni wedi cyflawni llawer ac ym myd addysg yn benodol.”

Gwyliwch y cyfweliad llawn ag Aled Roberts yn trafod gweledigaeth y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer etholiadau’r Cynulliad isod:

Cwestiynau Cyflym golwg360 i ymgeiswyr o bump o’r prif bleidiau: