Andrew RT Davies
Yn yr ail
mewn cyfres o gyfweliadau ag arweinwyr y pleidiau yng Nghymru cyn etholiadau’r Cynulliad, Iolo Cheung fu’n holi Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr

O’r holl bleidiau sydd yn cael eu cynrychioli yn y Cynulliad ar hyn o bryd, y Ceidwadwyr yw’r unig rai sydd eto i gael blas ar lywodraethu mewn rhyw fodd ym Mae Caerdydd.

Mae’r Blaid Lafur wedi arwain ar eu pen eu hunain, neu gyda Phlaid Cymru neu’r Democratiaid Rhyddfrydol, ers dyfodiad datganoli  17 mlynedd yn ôl.

Ond yng nghanol y cymysgedd hwnnw o goch, gwyrdd a melyn, does dim lle erioed wedi bod i liw glas y Torïaid, er gwaethaf y ffaith eu bod nhw wedi cynyddu niferoedd eu Haelodau Cynulliad ym mhob etholiad ers 1997.

Mae’n amlwg bod hynny’n destun rhwystredigaeth i Andrew RT Davies, arweinydd y blaid ers pum mlynedd sydd yn torri’i fol eisiau dod â theyrnasiad Llafur yng Nghymru i ben.

“Un peth dw i’n meddwl fod pawb yn gytûn ag o yw bod angen newid go iawn ar ôl 17 mlynedd o ddirywiad wedi’i reoli gan Lafur,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wrth golwg360.

“Dw i ddim eisiau cael yr un drafodaeth mewn pum mlynedd o restrau aros sydd allan o reolaeth, toriadau mewn gwariant iechyd, safonau addysg yn llithro, ac economi sy’n golygu’r cyflogau isaf ym Mhrydain.”

Ar frig y rhestr

Dyw hi ddim yn syndod felly gweld bod y Ceidwadwyr wedi gwneud iechyd yn un o gonglfeini eu hymgyrch i geisio disodli Llafur ar ôl 5 Mai.

Ymysg addewidion y Ceidwadwyr yn y maes mae ymrwymiad i sefydlu Comisiynwyr Iechyd etholedig, creu cronfa driniaethau canser ac ailagor unedau mân anafiadau er mwyn lleihau’r baich ar ysbytai.

Mae’r un o bob saith person yng Nghymru sydd ar restr aros i gael eu trin ar y gwasanaeth iechyd hefyd yn “fethiant go iawn” sydd angen ei daclo, yn ôl Andrew RT Davies.

“Mae’n dibynnu pwy mae etholwyr yn gallu ymddiried ynddo ar y mater yma,” meddai’r Aelod Cynulliad dros Dde Ddwyrain Cymru.

“Rydyn ni eisoes yn gwybod– sef y tymor Cynulliad diwethaf – bod Llafur wedi torri’n sylweddol ar wariant iechyd yng nghyfnod cynnar y Cynulliad, ac fe gafodd y cyllidebau hynny eu pasio gyda chymorth Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

“Ni yw’r unig blaid y gallwch chi ymddiried ynom ni ar y Gwasanaeth Iechyd.”

Y cwestiwn mawr, wrth gwrs, yw a oes modd ymddiried mewn llywodraeth Geidwadol i redeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn well na’r llywodraeth Lafur presennol?

Byddai rhai’n cyfeirio’n syth at broblemau yn Lloegr, gyda streic y meddygon iau a diwygiadau arfaethedig y Ceidwadwyr yn San Steffan ar frig yr agenda, fel tystiolaeth yn erbyn hynny.

Ond er nad yw Andrew RT Davies yn “ymddiheuro o gwbl” am gynlluniau ei gyd-Geidwadwyr yn Llundain, mae’n mynnu nad yw hynny’n golygu y byddai’r un peth yn digwydd dan lywodraeth las yng Nghymru.

“Fe fydd y newidiadau yn Lloegr yn digwydd ac fe fydd hynny yn lleihau nifer y marwolaethau diangen mewn ysbytai,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn bwriadu newid cytundebau meddygon iau, a bwrsariaethau hyfforddi nyrsys, yng Nghymru achos dyna beth yw datganoli.

“Mae Gwasanaeth Iechyd Cymru yn fodel wahanol, ac yn darparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol i’r hyn a geir yn Lloegr.”

Ffactorau allanol

Ychydig fisoedd yn ôl roedd y polau piniwn yn galonogol i’r Ceidwadwyr Cymreig, gyda’r disgwyl y bydden nhw mwy neu lai yn dal eu tir yn y Cynulliad ac yn parhau i fod yr wrthblaid fwyaf.

Ond mae ffactorau diweddar, gan gynnwys argyfwng y diwydiant dur wedi newid y darlun, gyda chwestiynau’n codi ynglŷn â’r ffordd y mae’r llywodraeth yn San Steffan wedi ymateb.

Mae hynny’n cynnwys beirniadaeth o ymateb araf yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid, i amheuon bod y llywodraeth Geidwadol wedi atal ymdrechion ar lefel Ewropeaidd i ddelio â’r broblem.

Wfftio hynny fodd bynnag mae Andrew RT Davies, er ei fod yn cydnabod nad yw’r argyfwng o reidrwydd wedi gwneud llawer o les i ymgyrch ei blaid yn etholiadau’r Cynulliad.

Mae’n mynnu hefyd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o’r cyfrifoldeb am beidio â thorri cyfraddau busnes pan allen nhw fod wedi gwneud – a bod angen bod yn ofalus cyn cynnig unrhyw gymorth ariannol o du’r llywodraeth.

“Dw i’n deall bod yr argraff mae pobol yn ei gael yn rhan o’r darlun gwleidyddol,” cyfaddefodd.

“Ond pan ‘dych chi’n edrych ar y realiti fe allwch chi weld llywodraeth San Steffan Geidwadol sydd wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau dyfodol cynhyrchu dur ym Mhrydain ac yma yng Nghymru.”

Mater arall sydd wedi achosi trafferthion i’r Ceidwadwyr yn ddiweddar yw’r rhwygiadau o fewn y blaid ar refferendwm Ewrop – gydag Andrew RT Davies yn un o’r lleiafrif ymysg gwleidyddion ei blaid yng Nghymru sydd eisiau gadael yr Undeb.

Ag yntau’n ffermwr ei hun, onid doethach fyddai hi i aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd sydd yn darparu cymaint o’r cyllid y mae’r diwydiant amaeth yn dibynnu arno – yn enwedig gan nad oes sicrwydd y byddai llywodraeth San Steffan yn parhau i ddarparu’r cyllid yn sgil Brexit?

“Does dim y fath beth ag arian Ewropeaidd beth bynnag, myth yw hynny. Arian trethdalwyr Prydeinig yw e,” mynnodd Andrew RT Davies.

“Mae mwy o arian yn mynd allan nag sy’n dychwelyd, felly byddai gan y Trysorlys fwy o arian [petai Prydain yn gadael]. Mae’n strategol hanfodol i sicrhau diogelwch bwyd, ac fe fyddai unrhyw lywodraeth oedd ddim yn gwneud hynny’n esgeuluso’i chyfrifoldeb i bobol Prydain.”

‘Dim i’w gynnig’

Ymysg rhai o’r addewidion eraill sydd yn cael eu gwneud ym maniffesto’r Ceidwadwyr mae ymrwymiad i ddiwygio’r drefn gostus bresennol o gynnig grantiau ffioedd myfyrwyr – polisi sydd yn “anghynaladwy”.

Yn hytrach fe fyddai’r ffocws ar gynnig grantiau i helpu â chostau byw myfyrwyr, ble bynnag maen nhw’n astudio – trefn debyg i gynlluniau’r Democratiaid Rhyddfrydol, ond yn wahanol i Blaid Cymru fyddai’n gwobrwyo dim ond y rheiny oedd yn astudio yng Nghymru neu’n dychwelyd ar ôl graddio.

Ar faterion eraill dyw’r blaid ddim mor glir – does dim ymrwymiad y naill ffordd neu’r llall i gynlluniau posib ar gyfer yr M4, dim ond bwriad i “gynnal adolygiad llawn” o’r gwahanol opsiynau.

Mae dyfodol yr iaith Gymraeg hefyd yn cael sylw gan y blaid, gydag addewidion i ddarparu mwy o addysg cyfrwng Gymraeg a galluogi mwy o bobol i’w ddefnyddio yn y gweithle.

“Ar ôl 17 mlynedd o lywodraeth Lafur allwn ni wir ddweud fod yr iaith Gymraeg mewn lle da? Maen nhw’n dweud pethau calonogol, ond yn y bôn does ganddyn nhw ddim i’w gynnig,” meddai Andrew RT Davies.

Serch hynny, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyfaddef mai digon cymysg yw ei lwyddiant ef ar hyn o bryd wrth geisio dysgu’r iaith dan arweiniad un o diwtoriaid y Cynulliad.

“Rhai dyddiau mae hi’n llwyddo, adegau eraill d’yn ni ddim yn cael cymaint o lwyddiant ag y byddai hi’n ei hoffi!” meddai.

“Ond dyw hynny ddim yn golygu nad ydw i eisiau gweld y ddarpariaeth yna ar gael i bobol ddysgu a siarad yr iaith, ac yn fwy na dim sicrhau ei bod hi’n iaith fyw. Dyna’r peth pwysig i fi.

“I rywun fel fi o dde ddwyrain Cymru, un o’r llwyddiannau mawr rydyn ni wedi’i weld yw’r cynnydd yn y defnydd o’r iaith yng Nghaerdydd ac ardaloedd eraill o’r de ddwyrain, ble rhai blynyddoedd yn ôl fyddech ddim hyd yn oed wedi clywed gair o Gymraeg.”

Gelynion gwleidyddol

Yn y bôn fodd bynnag mae gan y Ceidwadwyr yng Nghymru broblem ddelwedd o hyd.

Er mor benderfynol y mae Leanne Wood hefyd o weld diwedd ar lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae arweinydd Plaid Cymru eisoes wedi diystyru’r opsiwn o glymbleidio â’r Torïaid ar ôl yr etholiad.

Dyw Andrew RT Davies ddim mor barod i gau drysau – oni bai am un.

“Un peth alla’i ddweud yn bendant yw na fyddwn ni’n clymbleidio â Llafur – ond dw i ddim yn meddwl bod hynny’n newyddion!” meddai.

Os yw’n fodlon diystyru gweithio â Llafur, felly, pam nad yw’n ymrwymo i wneud yr un peth â UKIP, plaid arall sydd yn disgwyl ennill seddi ar 5 Mai?

“Dyw’r un o’r pleidiau eraill wedi bod yn llywodraethu ar eu pen eu hunain yng Nghymru. Dyna pam allwn ni ddweud na fyddwn ni’n gweithio â’r Blaid Lafur,” mynnodd.

“Ond nid ein gwaith ni yw edrych ar glymbleidio neu gytundebau, ein gwaith ni yw perswadio pobol i bleidleisio dros y Ceidwadwyr.”

Beth sydd yn glir, ar ôl 17 mlynedd ddi-dor o fod yn wrthblaid, yw bod y Torïaid mor benderfynol ag erioed nad ar y meinciau cefn y maen nhw eisiau bod am bum mlynedd arall.

Ond mae clymbleidiau a chydweithio yn rhan nodweddiadol o wleidyddiaeth Bae Caerdydd, a mwyafrif clir yn anodd tu hwnt i’w hennill.

Nid denu etholwyr newydd i gorlan ei blaid yw her fwyaf Andrew RT Davies felly, ond perswadio pleidiau eraill mai moddion, nid gwenwyn, yw’r hylif glas y mae eisiau ei ychwanegu at y pair llywodraethol yn y Senedd.

Gallwch ddarllen y cyfweliad cyntaf yn y gyfres, gyda Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol, drwy ddilyn y linc yma.