Dylan Iorwerth sy’n edrych ar y sgandal costau…

Dim ond un rheswm sydd gan lygod mawr dros adael llong sy’n suddo. Nid achub y llong, ond achub eu crwyn eu hunain.

Felly, ddylai neb feddwl mai buddugoliaeth bur yw gweld rhagor a rhagor o Aelodau Seneddol llwgr yn penderfynu gadael Ty’r Cyffredin tros sgandal y lwfansau.

Mewn gwirionedd, mi fyddan nhw’n ennill eto trwy gynnig mynd yn hytrach na chael y sac. Ac maen nhw’n amlwg yn gobeithio y bydd gweithredu rwan yn osgoi rhywbeth gwaeth i ddod.

Mae AS sy’n ymddeol yn cael lwfans i helpu cau ei swyddfa a thaliadau ‘symud’ hael i’w helpu nhw tros y golled. Heb sôn am bensiwn, wrth gwrs. Os bydd chwarter yr ASau yn mynd y tro nesa’, fe allai hynny gostio swm tebyg i £12 miliwn mewn costau.

Digon teg os ydyn nhw wedi trin y gyfundrefn yn deg ar hyd y blynyddoedd ac yn mynd oherwydd henaint neu iechyd wael. Hollol anghyywir os ydyn nhw’n mynd oherwydd cam-fihafio.

Trwy roi’r cyfle i’w haelodau cyfeiliornus ymddeol yn dawel bach, mae’r arweinwyr – a’r system – yn caniatáu iddyn nhw elwa hefyd. Ac nid gweithred ddewr ydi ymddeol ond codi dau fys unwaith eto arnoch chi a fi.