Mae China, yr Unol Daleithiau, Afghanistan a Phacistan wedi dechrau ar drydedd rownd o drafodaethau heddwch, gyda’r bwriad o annog y Taliban i ddod i eistedd o gwmpas y bwrdd gyda llywodraeth Afghanistan.

Ar ddechrau’r uwch gynhadledd ym mhrifddinas Pacistan, Islamabad, heddiw, fe ddywedodd Sartaj Aziz, ymgynghorydd arbennig y wlad y honno ar faterion tramor, na fyddai yna unrhyw amodau’n cael eu gosod cyn y byddai pawb yn eistedd i lawr gyda’i gilydd.

Ond mae’r Taliban eisoes wedi dweud nad ydyn nhw’n fodlon siarad yn uniongyrchol gyda llywodraeth Afghanistan nes eu bod wedi trafod gyda swyddogion yr Unol Daleithiau yn gynta’.

Mae’r rowndiau blaenorol o drafodaethau wedi dibennu gydag addewid i “gyfarfod eto”. Ond y tro hwn, mae yna deimlad cyffredinol y dylid llunio rhyw fath o fap ac amserlen ar gyfer proses heddwch.