Gyda S4C, Treganna a’r refferendwm yn y penawdau, does dim gwadu -mae tymor y Cynulliad nôl gyda bang!

Byddai Carwyn Jones ac Ieuan Wyn Jones wedi ffafrio trafod toriadau a’r Cwpan Ryder bore ma mae’n siwr ond roedd rhaid holi Carwyn am ei ymateb i’r cyhoeddiad bod Cyngor Caerdydd eisiau adeiladu ysgol newydd tair ffrwd i ysgol Treganna ar gost o £9 miliwn erbyn 2013. Fel y gwelwch chi yma mae’r rhieni’n poeni na fydd yr arian ar gael i adeiladu’r ysgol oherwydd yr hinsawdd economaidd. Roedd sylwadau Carwyn Jones yn galonogol i’r rhieni yn hynny o beth -mae’r sefyllfa’n “dynn” ond “mae arian ar gael.”

Yn y papur heddiw y clywodd Carwyn am gynlluniau’r cyngor i Dreganna medde fe. Weithiau gellir dadlau bod Carwyn yn rhy brin ei eiriau -mor wahanol i’w ragflaenydd oedd bob amser yn barod ei stori a’i hirwyntogrwydd -ond weithiau mae un gair yn dweud y cyfan. O drawsysgrif fy holi i bore ma:

“Ro’ch chi’n dweud cyn yr haf eich bod chi’n gweithio’n agos â Chyngor Caerdydd i ddod â datrysiad ond doedd gyda chi ddim syniad eu bod nhw’n mynd i roi cynnig ger bron i adeiladu ysgol?

Na.”

Fydden i ddim yn synnu pe na bai’r Cyngor wedi penderfynu cyhoeddi eu cynlluniau er mwyn gorfodi trafod ar y mater, a dechrau’r broses. Rwy’n deall bod rhyw £3 miliwn gan y Cyngor i’w roi tuag at adeiladu’r ysgol ond bydd rhaid i’r Llywodraeth ddarparu’r gweddill o £6 miliwn er mwyn i’r cyngor allu dechrau adeiladu.

Iechyd oedd canolbwynt cynhadledd y Ceidwadwyr -maen nhw’n meddwl ei bod hi’n gywilyddus nad yw Llywodraeth y Cynulliad yn fodlon gwarchod cyllideb iechyd y grant bloc. Gan fod Llywodraeth San Steffan wedi dweud na fydd cyllideb y gwasanaeth iechyd yn cael ei dorri, maen nhw am i Lywodraeth Cymru wneud yr un peth. Dyw Nick Bourne ddim yn derbyn dadl y Llywodraeth bod addysg ac iechyd yn ddwy draean o holl grant bloc y Cynulliad ac felly na allan nhw addo gwarchod cyllideb y ddwy adran yn llwyr heb beryglu gwasanaethau eraill.

Difyr oedd gweld bod meirioli o du’r Ceidwadwyr ar S4C -neu o leiaf mae Nick Bourne yn dangos mwy o gydymdeimlad na Jeremy Hunt yn adran ddiwylliant San Steffan wedi bod yn ei ddangos hyd yn hyn -dim siartiau yn dangos cyllideb yn cynyddu a gwylwyr yn gostwng gan Bourne bore ma. Na, mae e’n awyddus iawn i weld datrysiad brys i argyfwng S4C. Mae e am i S4C gyflwyno “strategaeth glir” am “ble maen nhw’n mynd” ac yn eu cynghori i ddweud yn blaen beth ddigwyddodd gyda ymadawiad Iona Jones er mwyn “cael y cyfan allan o’r ffordd.” Daeth y cydymdeimlad mwyaf yng nghyd-destun gwasanaeth darlledu Cymraeg. Mae’n “deall yr angen i warchod darlledu Cymraeg” ac roedd mwy o bwyslais ganddo ar hynny er iddo ail-adrodd mantra’r Ceidwadwyr bod rhaid i S4C fod yn ymwybodol o’r diffyg yn y gyllideb.

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol ar eu ffordd nôl o Lerpwl am 11.30 bore ma felly dim cynhadledd i’r wasg i ni. Ond fe fyddai rhywbeth diddorol ganddyn nhw i’w drafod ar iechyd hefyd pe baen nhw wedi gallu cyrraedd mewn pryd. Wele.