Hywel Wyn Edwards sy’n dweud hwyl fawr i un Eisteddfod, gan ddechrau edrych ymlaen i’r nesaf…

Wel, fe dynnwyd y Pafiliwn Pinc i lawr ac fe gaeodd y stondinau am flwyddyn arall.  Aeth y Gadair a’r Goron i gartrefi newydd, a chafodd y corau a’r bandiau dipyn o hoe ar ôl yr holl gystadlu.  A hoe oedd hanes staff yr Eisteddfod hefyd, ar ôl i bopeth ddod i ben.  Lle digon unig a thrist yw Maes yr Eisteddfod fore Sul ar ôl i’r cyfan ddod i ben.  Ychydig o lanast sydd ar ôl; y geriach a adawyd ar ôl gan stondinwyr.  Ond mae’r atgofion yn parhau.  Does dim angen y Pafiliwn Pinc i atgoffa pobl Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd bod yr Eisteddfod wedi’i chynnal yn yr ardal eleni – er bod nifer wedi bod yn awyddus i’w gadw yno!

Ond mae taith y Pafiliwn Pinc yn parhau, a pharhau hefyd y mae’n taith ninnau.  Yr wythnos nesaf, byddwn yn cerdded y tir yn Fferm Bers Isaf, Wrecsam.  Mae cerdded y tir yn rhan bwysig o’r paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod, er mwyn i ni sicrhau ein bod yn adnabod pob modfedd o’r tir, ac y flwyddyn nesaf, byddwn yn dychwelyd at dir amaethyddol.

Dechrau eto y bydd ymarferion y Côr  yn Wrecsam ymhen rhai wythnosau, nos Sul 26 Medi, ac mae ffons y swyddfa eisoes yn brysur gyda phobl eisiau copїau cerddoriaeth er mwyn dechrau ymarfer ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mae nifer fawr eisiau gwybodaeth am garafanio ac am lety yn ardal Wrecsam.  Efallai eich bod yn teimlo bod hyn yn gynnar iawn, ond dydi o ddim mewn gwirionedd.

Wyddoch chi mai dim ond un ar ddeg wythnos a hanner sydd i fynd cyn y dyddiadau cau cyntaf – llai na thri mis!  Mae’n rhaid i bob cais ar gyfer y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen ein cyrraedd ni erbyn 1 Rhagfyr.  Felly, os ydych chi am lwyddo fel Grace Roberts neu Jerry Hunter yn Wrecsam y flwyddyn nesaf, gobeithio’n arw eich bod wrthi’n brysur yn ysgrifennu erbyn hyn!

Ac unwaith mae’r dyddiadau cau’n cychwyn, mae’r holl brysurdeb cystadleol yn dychwelyd, gyda’r prosesu, y beirniadu ac yn y blaen yn llenwi oriau staff am fisoedd lawer, a dyw’r gwyliau fis Awst a’r cyfle i asesu a gwerthuso’r Brifwyl ym mis Medi’n ddim ond atgof.

Mae 2011 yn argoeli i fod yn ddiddorol am nifer o resymau.  Nid yn unig mae’r Eisteddfo yn dychwelyd i Wrecsam, tref a fu’n gartref i’r Brifwyl ddiwethaf yn 1977, ond mae’r Eisteddfod ei hun hefyd yn dathlu pen blwydd go arbennig.  Byddwn yn dathlu 150 o flynyddyoedd ar ein ffurf bresennol.  Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n brysur yn trefnu’r gweithgaredd a’r ymgyrch i ddathlu, a byddwn yn sicr o rannu’r cyfan yn y blog hwn dros yr wythnosau nesaf.

Mae’n argoeli i fod yn gyffrous, yn uchelgeisiol, ac yn mynd i ychwanegu at naws arbennig Wrecsam a’r Fro.  Eisoes bu peth gwaith paratoi, gyda’r elfen o ddathlu’n rhedeg fel edau drwy destunau Eisteddfod 2011, felly, dros y misoedd nesaf – ac yn enwedig ymhen deg mis a hanner, cawn weld pwy fydd yn dathlu go iawn, pan fydd y golau’n pylu a’r corn gwlad yn atsain drwy’r Pafiliwn.  Ond cyn llwyddo, rhaid cofio anfon y gwaith atom – felly, cofiwch da chi – un ar ddeg wythnos a hanner tan y dyddiad cau cyntaf!