Dylan Iorwerth yn dadlau tros gadw gwybodaeth yn gudd…

Am unwaith mae’n iawn dweud dim.

Ddylai’r awdurdodau cyhoeddus ddim rhoi rhagor o wybodaeth i ni.

Ac mae’r Ceidwadwr, Andrew R T Davies, yn anghywir i ddweud fel arall.

Y pwnc ydi clefyd y llengfilwyr a’r clwstwr o achosion sydd wedi datblygu yn ardal Blaenau’r Cymoedd.

Erbyn hyn, mae yna 19 sy’n sicr yn rhan o’r clwstwr ac mae yna 4 achos arall yn cael eu hystyried – gan gynnwys y ddau berson a fu farw.

Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, mi ddylen ni gael gwybod ym mha drefi y mae’r cleifion i gyd yn byw ac ym mha ysbytai y maen nhw’n cael eu trin.

Mae’n dweud bod angen deall be ydi ‘ôl-troed’ y clefyd er mwyn cysuro pobol a’u helpu i ddeall beth sy’n digwydd.

Am unwaith, yr awdurdodau sy’n iawn.

Ffeithiau = llai o wybodaeth

Gan nad ydi’r clefyd yn gallu cael ei drosglwyddo o berson i berson, fyddai gwybodaeth am y cleifion yn helpu neb.

O fewn dim, mi fyddai pobol leol a newyddiadurwyr wedi ffeindio pwy yn union ydyn nhw ac mi fydden nhw’n sicr o ddiodde’ oherwydd hynny.

A fyddai neb ddim mymryn saffach.

Yr unig ôl-troed sy’n cyfri’ ydi tarddiad y clefyd – lle’n union y mae’r tŵr oeri dŵr neu’r system awyru sy’n achosi’r haint.

Dydi gwybod bod un claf ym Merthyr ac un arall yng Nglyn Ebwy o ddim help i neb. Yr unig ganlyniad fyddai panig.

Os cael rhagor o wybodaeth o gwbl, mi fyddai’n gwneud mwy o sens i ofyn ble’n union y mae’r tyrau dŵr sydd wedi gorfod cael eu glanhau.

Ond weithiau, mae rhagor o ffeithiau’n golygu llai o wybodaeth. Os nad y rheiny ydi tarddiad y clefyd, mi fyddai datgelu ble y maen nhw’n annheg i’r busnesau ac yn beryglus i bawb arall.

Fel arestio rhywun ar gam am lofruddiaeth … mae’r llofrudd go iawn yn rhydd.