Mae corff sy’n cynrychioli prifysgolion Cymru wedi cyhoeddi fod angen ailystyried y modd y caiff myfyrwyr Cymru eu hariannu.

Daw hyn fel rhan o chwe ymrwymiad Prifysgolion Cymru, wrth iddyn nhw gyflwyno ymrwymiadau ar sut y dylai Llywodraeth nesaf Cymru “flaenoriaethu addysg uwch i Gymru.”

Mae un o’r ymrwymiadau’n cynnwys cyflwyno grantiau cynhaliaeth i fyfyrwyr o Gymru ar sail sefyll prawf modd.

Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Is Ganghellor Prifysgol Caerdydd a Chadeirydd Prifysgolion Cymru, “bydd cynnig grantiau cynhaliaeth trwy brawf modd i fyfyrwyr o Gymru o lefel sylfaen i lefel ôl-radd yn rhoi’r cyfle i lawer mwy o bobl ddawnus drawsnewid eu cyfleoedd bywyd trwy fynd i brifysgol.”

Fe ychwanegodd y bydd targedu grantiau ffioedd dysgu “yn golygu y gellir blaenoriaethu cyllid ar bolisïau addysg uwch sy’n arfogi ein prifysgolion i greu twf economaidd, mwy o gyfiawnder cymdeithasol ac, yn hollbwysig, arlwy brifysgol o ansawdd uchel i fyfyrwyr.”

‘Cyflawni i Gymru’

Mae’r ymrwymiadau eraill yn cynnwys blaenoriaethu gwariant addysg uwch at bolisïau i fanteisio ar addysg brifysgol o ansawdd uchel a chreu manteision i unigolion, llywodraeth a busnesau yng Nghymru.

Maen nhw hefyd yn galw am gynnal y gyllideb ymchwil ansawdd-gysylltiol (QR), parhau i fuddsoddi mewn darpariaeth ran-amser, a chadw corff ariannu a goruchwyliol ar gyfer addysg uwch yng Nghymru i gynnig sefydlogrwydd i’r sector.

Maen nhw’n galw hefyd ar y Llywodraeth nesaf i “gynnal cefnogaeth weithredol o blaid yr ymgyrch y dylai Cymru barhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.”

“Os ydym yn mynd i barhau i fod yn rym cadarnhaol er lles pobl Cymru a’n cymunedau lleol, rhaid i’r llywodraeth nesaf flaenoriaethu polisïau sy’n arfogi prifysgolion i barhau i gyflawni manteision economaidd a chymdeithasol o bwys i Gymru,” meddai’r Athro Colin Riordan.

‘Llai o ddyled’

Er hyn, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, fod polisi ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru yn “fuddsoddiad mewn pobl ifanc”.

Fe ychwanegodd fod data diweddaraf UCAS yn dangos ers cyflwyno’r polisi fod “sefydliadau Cymru wedi derbyn nifer uwch o fyfyrwyr, tra bo incwm y sector Addysg Uwch yng Nghymru wedi parhau i gynyddu er gwaetha’r hinsawdd ariannol heriol ar hyn o bryd.”

“Yn ogystal, mae lefel y ddyled sydd gan fyfyrwyr o Gymru yn sylweddol is na’r rhai yn Lloegr.”

Fe ddywedodd fod myfyrwyr presennol o Gymru “tua £17,000 yn well eu byd na’u cymheiriaid yn Lloegr.”

Mae adolygiad Diemwnt o addysg uwch a chyllid myfyrwyr Cymru yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac fe ddywedodd y llefarydd y byddai canlyniadau’r adolygiad yn cynnig argymhellion ar pa gamau sydd eu hangen ar gyllid addysg uwch yng Nghymru.