Mae Heddlu’r Gogledd wedi rhyddhau fideo yn dangos pedwar o feicwyr yn teithio ar gyflymder o bron i 100 milltir yr awr yn agos i Drawsfynydd yng Ngwynedd.

Cafodd y pedwar eu dal yn teithio cyfartaledd o 98 milltir yr awr dros bellter o ryw ddwy filltir – ac yn ystod y fideo mae’n ymddangos bod y swyddog heddlu yn teithio tua 135 milltir yr awr ar un adeg er mwyn ceisio eu dal.

Fe blediodd dau ddyn, Connor Umney o Whitfield ger Manceinion, a Peter Jackson o Bury yn Swydd Gaerhirfryn, yn euog i gyhuddiad o yrru yn rhy gyflwym yn Llys Ynadon Dolgellau ddoe.

Cafodd Connor Umney ddirwy o dros £1000 ac roedd yn rhaid i Peter Jackson dalu bron i £850.

Cafodd y ddau feiciwr arall oedd gyda nhw hefyd eu dirwyo, gyda dyn 52 oed yn gorfod talu costau o bron i £400 a dyn 39 oed yn gorfod talu dros £150. Mae’r pedwar ohonyn nhw wedi derbyn pum pwynt ar eu trwyddedau.

Fe gyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru’r fideo isod o swyddog yn mynd ar ôl y pedwar beiciwr ar ffordd yr A4212, sydd ag uchafswm cyflymder o 60mya, dydd Llun Pasg 6 Ebrill: