Mae’r pêl-droediwr Djibril Cisse wedi beirniadu ei gyn-wraig Jude ar ôl iddi hi ymddangos ar raglen Channel 5 ynglŷn â selebs a’u bywydau moethus.

Roedd Jude Cisse, Cymraes sydd yn fam i dri o’i blant, wedi ymddangos ar raglen Britain’s Flashiest Families yr wythnos hon yn siopa am gar Porsche ac yn cynnal parti ysgaru moethus.

Yn dilyn hynny fe bostiodd Djibril Cisse, sydd wedi ennill 41 cap dros Ffrainc, sawl neges ar Twitter yn beirniadu ei gyn-wraig a chwestiynu pam wnaeth hi ganiatáu i’w plant nhw gael eu ffilmio.

Ond mae Jude Cisse, sydd yn wreiddiol o Ynys Môn, wedi ymateb yr un mor benderfynol ar y wefan gymdeithasol gan ddweud mai edrych ar ôl ei phlant yw’r peth pwysicaf iddi hi.

Djibril yn bytheirio

Fe wnaeth Djibril a Jude Cisse gyfarfod pan oedd y pêl-droediwr yn chwarae i Lerpwl yn 2005 a phriodi yng Nghastell Bodelwyddan.

Ond bellach maen nhw wedi gwahanu ac mae Djibril Cisse nôl yn chwarae i glwb yn Ffrainc.

Mewn cyfres o negeseuon ar ôl i’r rhaglen Channel 5 gael ei darlledu fe ddywedodd Djibril Cisse ei bod hi’n “warthus” bod Jude Cisse yn cwyno wrtho “nad oedd ganddi ddigon o arian i fagu’r plant” ac yna yn gwario ar geir.

Mynnodd hefyd y byddai o’n dweud ei ochr o o’r stori a’i bod hi’n “jôc” fod y plant wedi cael eu dangos ar y teledu.

Yna fe bostiodd lun ohono fo a’i gariad newydd gan ofyn “ar ôl pedair blynedd ti [Jude] dal yn siarad amdana i?” a dweud wrthi am symud ymlaen.

Taro nôl

Mynnodd Jude Cisse fodd bynnag ei bod hi bellach yn ddynes fusnes lwyddiannus sydd yn cynnal ei hun heb help Djibril Cisse, gan ddweud ar Twitter bod cadw’i gyfenw ddim yn golygu ei bod hi dal â theimladau tuag ato.

“Mae’r control freak yma angen ei chau hi! Cymra’r amser i ffonio neu weld dy blant – wedyn fydd gen ti hawl i wneud sylw,” meddai Jude Cisse mewn un neges danllyd.

Fe ail-drydarodd hi sawl neges o gefnogaeth hefyd gan ddweud ei bod hi’n cytuno “100%” ei bod hi’n “fam wych i’r bechgyn a dyna yw’r peth pwysicaf”.

Yn gynharach eleni fe ymddangosodd Jude Cisse ar raglen Y Wag o Fôn ar S4C yn trafod ei bywyd ers cyfarfod â Djibril Cisse.