Fe fydd tatŵydd o Abergele yn ymddangos ar soffa Alan Carr heno i drafod cyfres newydd ar Channel 4 – a dangos ei gampwaith diweddaraf ar ben ôl actor.

Mae Jay Hutton yn un o’r artistiaid sydd yn ymddangos ar raglen Tattoo Fixers ar Channel 4, ble maen nhw’n gwneud eu gorau i ddylunio tatŵs gwell ar gyfer pobl sydd wedi cael rhai sâl.

Ond fe fydd rhaglen sgwrsio Alan Carr, Chatty Man, hefyd yn dangos Jay Hutton yn tatŵio ‘Alan Carr woz ere’ ar ben ôl Thomas Turgoose, actor o’r ffilm This Is England.

Roedd y tatŵ yn rhan o fet rhwng Alan Carr a Thomas Turgoose ar gyfer codi arian i elusen.

Codi arian i elusen

“Fe wnes i datŵio Thomas Turgoose ar ôl iddo fo ymddangos ar y rhaglen o’r blaen a gwneud bet efo Alan y bysa fo’n cael ‘Alan Carr’ wedi’i datŵio ar ei ben ôl os oedden nhw’n codi £5,000 i elusen,” esboniodd Jay Hutton, sydd yn 25 oed.

“Os oedden nhw’n codi mwy na hynny, fe ddywedodd o y bysa fo’n cael ‘Alan Carr woz ere’ ar ei ben ôl.

“Ar Tattoo Fixers mae hwn yn fath o beth fyswn ni’n trio’i guddio, ond gan ei fod o at achos da roedd rhaid ei wneud o ac fe wnes i fwynhau bod yn rhan ohono.”

Fe fydd rhaglen Chatty Man heno yn rhifyn arbennig ar gyfer gwrthsefyll canser, gyda gwesteion yn cynnwys cyflwynydd Great British Bake-Off Sue Poerkins, y cyflwynydd Jonathan Ross, actor Made In Chelsea Jamie Laing a’r band 5 Seconds of Summer.