Shaun Edwards (chwith) a Warren Gatland
Mae Shaun Edwards wedi mynnu na fyddai gweld Cymru yn gorffen ar frig eu grŵp yn ddigon i gyfrif fel ymgyrch lwyddiannus yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Dywedodd hyfforddwr amddiffyn Cymru y byddai’n “grêt” i gipio’r fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia prynhawn fory, ond bod gan y tîm “ychydig mwy o uchelgais na hynny”.

Mae’r ddau dîm eisoes wedi sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf, ac fe fydd yr enillydd yn yr ornest yn Twickenham yfory yn ennill y grŵp ac felly’n osgoi De Affrica yn chwarteri.

Mae Cymru wedi gwneud chwe newid i’w tîm nhw o’r pymtheg wynebodd Ffiji wythnos ddiwethaf, tra bod Awstralia wedi cynnwys Israel Folau er bod y cefnwr wedi cyfaddef heddiw nad yw “100% yn ffit”.

Anelu’n uwch

Mae Cymru wedi colli eu deg gêm ddiwethaf yn erbyn Awstralia, ond yn ôl Edwards mae carfan Cymru yn teimlo y gallan nhw wneud o leiaf cystal â phedair blynedd yn ôl pan gyrhaeddon nhw rownd gynderfynol Cwpan y Byd.

“Mae’n rhyddhad ein bod ni drwyddo i’r chwarteri, ond rydyn ni eisiau ennill pob gêm,” meddai Shaun Edwards.

“Dim ond un o’n deg gêm olaf rydyn ni wedi’i golli, felly rydyn ni ar rediad da. Mae angen i ni gadw hynny i fynd. Does dim dwywaith bod Awstralia wedi cael y gorau ohonom ni yn ddiweddar, ac rydym ni’n benderfynol o gystadlu â nhw.

“Byddai’n gamp dda iawn [i orffen ar frig y grŵp] ond rydyn ni ychydig yn fwy uchelgeisiol na hynny.

“Tro diwethaf fe gyrhaeddon ni’r rownd gynderfynol ac mae pawb yn gwybod beth ddigwyddodd bryd hynny. Byddai gorffen ar frig y grŵp yn grêt, ond dim ond llwybr yw hynny tuag at rywbeth rydyn ni’n gobeithio allai fod yn llawer mwy a llawer gwell na hynny.”

Folau ‘ddim 100%’

Fe gyfaddefodd cefnwr Awstralia Israel Folau heddiw nad yw’n hollol ffit ar gyfer y gêm fory, a hynny wedi iddo anafu ei bigwrn yn erbyn Lloegr wythnos diwethaf.

Mynnodd seren y Wallabies fodd bynnag na fyddai’n effeithio arno pan fydd yn camu i’r cae i herio Cymru, er na fu’n ymarfer â’i dîm heddiw.

“Mae pawb yn cael mân anafiadau fel hyn ac mae’n rhaid i chi fel chwaraewr frwydro drwyddyn nhw,” meddai.