David Cameron
Mae David Cameron yn bwriadu llacio’r rheolau cynllunio gyda’r bwriad o helpu miloedd o bobl ifanc i brynu eu cartrefi cyntaf.

Fe fydd y Prif Weinidog yn defnyddio ei araith i gynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion heddiw i gyhoeddi “crwsâd cenedlaethol” i adeiladu cartrefi newydd fel bod pobl ifanc yn gallu prynu, yn hytrach na rhentu, eu cartrefi.

Ar hyn o bryd, mae cynghorau yn gallu sicrhau bod cyfran o dai mewn unrhyw ddatblygiad yn dai fforddiadwy i’w rhentu. O dan gynlluniau Cameron fe fydd datblygwyr yn Lloegr yn cael adeiladu cartrefi i’w prynu o dan fenter Cartrefi Cychwynnol y Llywodraeth.

Fel rhan o’r cynllun, fe fydd cartrefi yn cael eu gwerthu am 20% yn llai na phris y farchnad, gyda phris uchafswm o £450,000 yn Llundain a £250,000 tu allan i Lundain.

Mae disgwyl i David Cameron bwysleisio eto ei fwriad i gamu o’r neilltu ar ôl ail dymor yn y swydd, pan fydd wedi treulio 10 mlynedd yn Downing Street.