George Osborne (PA)
Fe fydd dinas fawr arall yng ngogledd Lloegr yn cael rhywfaint o ddatganoli mewn cytundeb sy’n cael ei arwyddo heddiw.

Fe fydd y Canghellor, George Osborne, yn mynd i Sheffield heddiw i arwyddo dogfen sy’n rhoi grym tros bolisi trafnidiaeth, bysus a chynllunio yn nwylo’r cyngor lleol.

Ac fe fydd pobol y ddinas yn pleidleisio i ddewis maer yn 2017.

Mae’r cytundeb yn rhan o gynllun ‘Pwerdy’r Gogledd’ sydd i fod i arwain at adfer yr economi yn yr ardal.

Mae Manceinion eisoes wedi cael pwerau tebyg ac, yn ôl George Osborne, fe fydd rhagor yn dilyn.

Byddai’r cytundeb, meddai, yn rhoi’r pwer i Sheffield newid siâp llywodraeth leol yn y rhanbarth “mewn ffordd y byddai’n amhosib ei dychmygu ychydig flynyddoedd yn ôl”.