Clawr adroddiad newid hinsawdd o 2014
Mae cwmnïau mawr bwyd a diod wedi dod at ei gilydd i alw am weithredu dros newid hinsawdd, gan rybuddio bod y cynnydd mewn tymheredd yn bygwth cyflenwadau bwyd y byd.

Mae Mars, Unilever, Kellogg’s a Nestlé ymysg y rhai sydd wedi arwyddo llythyr agored i arweinwyr y byd, yn galw am “gytundeb cadarn” ynglŷn â mynd i’r afael â chynhesu byd-eang.

Mae’r llythyr yn dod cyn i’r Cenhedloedd Unedig  gynnal trafodaethau ym Mharis ym mis Rhagfyr lle bydd gwledydd yn ceisio cytuno ar y ffordd orau o ddatrys y broblem.

‘Gwael i ffermwyr’

Yn y llythyr, mae penaethiaid y cwmnïau yn rhybuddio bod “newid hinsawdd yn wael i ffermwyr ac i amaethyddiaeth”.

“Mae sychder, llifogydd ac amodau tyfu cynhesach yn bygwth cyflenwad bwyd y byd ac yn cyfrannu at ansicrwydd yn y sector bwyd,” meddai.

Maen nhw’n rhybuddio y bydd yn rhaid i gwmnïau fel nhw dyfu mwy o fwyd ar lai o dir gan fod disgwyl i “boblogaeth y byd gyrraedd naw biliwn erbyn 2050”.

“Bydd y cynnydd yn y boblogaeth yn gofyn am ragor o ddŵr, ynni a bwyd, sydd i gyd mewn perygl oherwydd cynnydd mewn tymheredd.”

Beirniadu’r cwmnïau

Mae rhai o’r cwmnïau wedi cael eu beirniadu yn y gorffennol am “gam-fanteisio” ar gymunedau tlawd ledled y byd, gan gynnwys Nestlé, sydd wedi’i feirniadu am ddweud nad oedd dŵr yn “hawl dynol” ac am “gam-werthu” cymysgedd llaeth powdr i famau tlawd gan ddweud ei fod yn well na llaeth o’r fron.

Ond ers hynny, mae Prif Weithredwr y cwmni, Peter Brabeck-Letmathe, wedi dweud bod ei gwmni wedi newid ei agwedd.