Y Cynghorydd Siôn Jones, Bethel
Mae un o gynghorwyr Llafur yng Ngwynedd yn honni bod y cyngor yn gwario miloedd – a hynny heb fod angen – ar ymgynghori ar ddyfodol gwasanaethau megis llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a phontydd.

Ond mae Cyngor Gwynedd yn mynnu bod cyflogi ymgynghorwyr annibynnol yn arwain at arbed arian yn y pen draw.

Ar hyn o bryd mae’r cyngor dan bwysau i arbed £9 miliwn ac yn gofyn i’r cyhoedd am syniadau ar sut i wneud hynny, mae’r Cynghorydd Siôn Jones o Fethel yn galw am roi’r gorau i gyflogi ymgynghorwyr allanol i ganfod arbedion.

Meddai’r Cynghorydd Siôn Jones: “Mae’r ymgynghoriadau ar y llyfrgelloedd yn £24,000, gyda £10,000 [yn cael ei wario] ar benderfynu [tinged] gwasanaethau hamdden a £1,000 ar ymgynghoriad ar [ddyfodol] Pont Yr Aber [yng Nghaernarfon] yn costio lot o bres.

“Mae’r Cyngor yn cwyno fod rhaid gwneud toriadau a chynyddu treth cyngor, ond mi’r ydan ni’n gwastraffu a lluchio pres ar ymgynghoriadau yn hytrach na gwario er lles pobl Gwynedd.”

“Fe ddylen ni wario’r arian hwn i sicrhau fod y gwasanaethau hyn yn aros yn agored fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.”

Ychwanegodd fod gan Gyngor Gwynedd ddigon o staff i ymgymryd â’r gwaith o ymgynghori ar doriadau.

“Mae yna gymaint o wastraffu arian yn digwydd. Mae yna 7,000 yn gweithio i’r Cyngor – pam fedran nhw rannu adnoddau a gwneud unrhyw waith ymgynghori yn fewnol?”

Ond mae Cyngor Gwynedd wedi amddiffyn eu defnydd o ymgynghorwyr ac yn dweud ei fod wedi arwain at arbedion o £1 miliwn.

Meddai llefarydd Cyngor Gwynedd: “Comisiynwyd arbenigwyr annibynnol i adolygu’r ddarpariaeth hamdden gyda’r nod o geisio gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau o fewn y sir ac hefyd i ystyried sut y gellid cydweithio gyda gwasanaethau eraill ar gyfer modelau amgen i’r dyfodol. Dyma’n union sydd yn digwydd ym Mhorthmadog lle bydd y llyfrgell yn cael ei adleoli yn adeilad Glaslyn yn y dref lle mae’r ganolfan hamdden eisoes wedi ei lleoli.”

A chwmni lleol gafodd y gwaith o edrych ar ddyfodol llyfrgelloedd.

“Dros y misoedd diwethaf, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus statudol ar ddyfodol y Gwasanaeth Llyfrgell a oedd yn edrych ar ddatblygu model newydd ar gyfer y Gwasanaeth i’r dyfodol yn wyneb y toriadau yng nghyllidebau’r Cyngor. Rhoddodd yr ymgynghoriad yma gyfle i ddefnyddwyr, staff llyfrgell, cymunedau, mudiadau a thrigolion Gwynedd gyflwyno eu sylwadau a’u hawgrymiadau. Er mwyn sicrhau fod y broses statudol yma wedi ei gynnal mewn modd annibynnol a gwrthrychol, penderfynwyd penodi cwmni annibynnol i ymgymryd â’r gwaith o gasglu barn defnyddwyr, cymunedau a’r cyhoedd. Yn dilyn proses tendr agored i sicrhau’r gwerth gorau am arian, apwyntiwyd cwmni lleol i ymgymryd â’r gwaith.”