Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn dweud fod y defnydd o fagiau siopa untro wedi gostwng 71% yng Nghymru, a bod rhwng £17 miliwn a £22 miliwn wedi’i gasglu ar gyfer achosion da trwy godi 5c am bob un.

Mae’r Adolygiad Ôl-weithredu Codi Tâl ar Fagiau Siopa Untro yng Nghymru yn edrych ar effaith y tâl ar ddefnyddwyr, busnesau a’r amgylchedd ers ei gyflwyno yn 2011. Mae hefyd yn edrych ar effaith y cytundeb gwirfoddol sy’n bodoli â masnachwyr er mwyn iddynt roi’r cyfraniadau net at achosion da.

Dywedodd Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol Cymru fod y drefn o godi tâl am fagiau siopa untro wedi bod yn gyfrifol am newid ymddygiad y defnyddwyr yn sylweddol, yn ogystal â chael effaith bwysig ar yr amgylchedd.

Mae’r prif ganfyddiadau eraill sy’n deillio o’r adroddiad yn nodi bod:

* 74% o ddefnyddwyr yn dweud eu bod yn cefnogi’r tâl;

* O blith y masnachwyr sy’n codi tâl am eu bagiau, dywedodd 87% fod codi tâl am fagiau siopa untro wedi cael effaith bositif neu niwtral ar eu busnes;

* Mae mwy yn defnyddio ‘bagiau am oes’ a bagiau eraill sy’n cael eu hailddefnyddio a golyga hynny fod yr holl fagiau a ddefnyddir wedi gostwng 57%.

Caiff yr adroddiad ar godi tâl am fagiau siopa untro yng Nghymru ei gyhoeddi fis cyn i Loegr ddechrau codi tâl am fagiau siopa untro a hynny ar 5 Hydref 2015. Fodd bynnag, yn Lloegr, dim ond masnachwyr mawr fydd yn gorfod codi tâl. Ni fydd angen i fusnesau bach na chanolig godi tâl.

“Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i godi tâl am Fagiau Siopa Untro a hynny er mwyn lleihau’r defnydd ohonynt a’r effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â nhw,” meddai Carl Sargeant. “Roeddwn i eisiau i bobl Cymru ddod i arfer ag ailddefnyddio eu bagiau wrth siopa.

“A hithau bron yn bedair blynedd ers dechrau codi tâl yng Nghymru mae’n ymddangos bod arferion defnyddwyr yn newid ac mae hynny cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Mae hefyd yn codi swm sylweddol o arian ar gyfer achosion da.”