Peter Black
Mae’r Aelod Cynulliad y Democrataidd Rhyddfrydol dros Orllewin De Cymru, Peter Black yn galw am gefnogaeth i Fferm Gymunedol Abertawe, yr unig fferm drefol yng Nghymru.

Mae’r Fferm Gymunedol ei hun yn denu 15,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac yn gweithio mewn cydweithrediad â 1,800 o bobl.

Mae hefyd yn chwarae rhan mewn cysylltu pobl gyda’r amgylchfyd a’r gymuned, meddai Peter Black.

Serch hynny, maent yn wynebu problemau ariannol a all arwain at gau’r Fferm Gydweithredol os na fydd camau pellach yn cael eu cymryd.

‘Apêl brys’

Dywedodd Peter Black: “Mae’r Fferm Gymunedol wedi lansio apêl brys am arian i wneud yn siŵr ei bod yn medru parhau i gynnal y fferm. Dros y flwyddyn nesaf, maent yn gobeithio codi £150,000 gan aelodau’r cyhoedd, busnesau Abertawe, Cyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru ac oddi wrth elusennau a chymdeithasau.

“Roeddwn yn falch o gael y cyfle i ymweld â’r Fferm Gymunedol unwaith eto heddiw a gweld fy hun yr ystod eang gynyddol o weithgareddau y maent yn cynnig, yn ogystal â chyfarfod rhai o’r staff a’r gwirfoddolwyr.

“Hyd at Fehefin y flwyddyn hon, mae’r Fferm wedi cydweithio gyda 119 o wirfoddolwyr, lle mae 48% ohonynt yn ddi-waith a mwy nag un rhan o dair gydag anghenion anabledd a chynhaliol. Roedd naw gwirfoddolwr wedi cael gwaith dros yr un cyfnod.

“Rwy’n annog pobl, busnesau ac elusennau i ystyried cynnig yr hyn y gallant i helpu’r fferm barhau.

“Mi fyddaf yn ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog yn ei gwahodd i ymweld â’r fferm a gofyn iddi ystyried cynnig cyfraniad ar ran Llywodraeth Cymru i’r fenter gwerth-chweil hon.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Nid yw’r Dirprwy Weinidog wedi derbyn unrhyw gyfathrebiad ynglŷn â’r mater yma hyd yn hyn.

“Mae cynlluniau fel hyn yn gallu bod o fudd i gymunedau mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys gwella cysylltiadau o fewn cymunedau, addysg a thwristiaeth.

“Maen nhw hefyd yn gallu darparu cyfleoedd i bobl ddysgu gwersi pwysig ynglŷn ag amaeth a sut i dyfu eich bwyd eich hunain.”