Dylan Iorwerth sy’n edrych ar adroddiad y Comisiwn arbennig i gam-drin plant yn sefydliadau’r Eglwys Babyddol yn Iwerddon…

Heddiw, mae pobol Iwerddon fel rhywun yn mentro i lawr i seler dywyll i weld yn iawn beth sydd yno.

Yn y gorffennol, mae yna bob math o straeon wedi awgrymu fod bwystfilod ac ysgerbydau yno; weithiau, mae ambell unigolyn wedi mentro i lawr efo fflachlamp a goleuo ambell gornel.

Ond, gydag adroddiad y Comisiwn arbennig i gam-drin plant yn sefydliadau’r Eglwys Babyddol yn y wlad, fe fydd y drws yn cael ei gicio ar agor a golau’n llifo i mewn.

Yn õl pob sôn, mae’r hyn sydd yno’n ddychrynllyd. Mae un Archesgob eisoes wedi rhybuddio y bydd yr adroddiad yn sobreiddio pawb.

Os oes yna wreiddiau crefyddol i’r creulondeb – a chwestiynau dwfn iawn am agwedd yr Eglwys at ‘bechod’ a ‘phechaduriaid’ – mae hefyd yn rhybudd am yr hyn sy’n digwydd pan fydd trefn ac awdurdod yn mynd yn rhy gry’ fel bod neb yn fodlon ei amau.

Os na allwch chi ddarllen yr adroddiad, ewch i chwilio am gân Christy Moore am y Magdalene Laundries a gwrando ar honno.