Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Hywel Wyn Edwards, sy’n trafod y datblygiadau diweddaraf ar y maes yng Nglyn Ebwy, yn cynnwys hynt a helynt cerrig yr orsedd dros y dyddiau diwethaf.

Mae pethau’n newid yn eithriadol o gyflym ar y Maes.  Prin ddeuddydd ar ôl pacio Cerrig yr Orsedd yn ofalus i mewn i’r lori yn Wrecsam, mi oeddan nhw’n eu lle ar y Maes yng Nglyn Ebwy.  Bu cryn drafod am y Cerrig symudol, ond maen nhw’n hynod o gyfleus, ac mae hynny’n help mawr yr adeg yma o’r flwyddyn!

Rwy’n siwr y byddwch yn cytuno bod y Cerrig yn cymryd eu lle’n arbennig o dda ar y Maes, gyda’r ‘rolling mill’ – un o symbolau eiconig y gweithfeydd dur y tu ôl i’r Cylch. Mae’r llun yma’n dangos yn glir yr hyn rydan ni wedi bod yn gweithio tuag ato ers cyhoeddi bod yr Eisteddfod yn dod i Flaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.  Mae’n dangos y ddolen – y cysylltiad – rhwng y diwydiannol a’r diwylliannol, ac mae hyn yn rhan fawr o’n gwaith ni eleni, ac yn rhan o weledigaeth y Cyngor pan wahoddwyd yr Eisteddfod i’r ardal.

Chawn ni byth Faes mwy diwydiannol na’r Gweithfeydd.  Rwy’n siwr nad ydym erioed wedi cynnal Eisteddfod ar lecyn lle bu cynifer o bobl yn gweithio am flynyddoedd lawer – rhwng pymtheg ac ugain mil o bobl pan oedd y gwaith dur ar ei anterth.  Ac rwy’n sicr na fu’r Eisteddfod ar Faes sy’n cael ei ail-ddatblygu’n y fath fodd ar ôl i’r Eisteddfod orffen.  Mewn gwirionedd, mae’r ail-ddatblygu’n digwydd o’n cwmpas ni, gyda Maes yr Eisteddfod wedi’i amgylchynu gan gontractwyr ac adeiladwyr sy’n gweithio ar brosiectau eraill a fydd yn rhan o dirwedd Glyn Ebwy am byth – tipyn o newid o arwyddo cytundeb gyda ffermwr a throi cae gwyrdd a fu’n gartref i rai degau o wartheg neu ddefaid yn Faes ar gyfer ein Prifwyl!

Efallai mai dim ond am wythnos y bydd yr Ŵyl ei hun ar agor ac yn ganolbwynt i ddiwylliant ein cenedl, ond mae effaith hir-dymor – y gwaddol – a adewir gan yr Eisteddfod – yn mynd i wneud gwahaniaeth i Lyn Ebwy, Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd am flynyddoedd lawer i ddod.  Efallai y bydd y Pafiliwn Pinc yn symud ymlaen i Wrecsam, ond fe fydd yr ardal wedi elwa ar y profiad mewn nifer o wahanol ffyrdd, yn ddiwylliannol, yn ieithyddol, yn gymunedol, ac mewn cyfnod fel hyn, y ffordd bwysicaf efallai, yn economaidd.

Braf oedd darllen sylwadau Maer tre’r Bala ychydig wythnosau’n ôl, pan yn trafod effaith yr Eisteddfod ar ardal Y Bala.  Fe ddywedodd,  “Rwy’n sicr bod yr Eisteddfod wedi achub nifer o fusnesau yn Y Bala.  Rhoddodd y Brifwyl gyfle iddyn nhw wneud bywoliaeth dda’n ystod yr wythnos, a byddai llwyddiant yr wythnos honno’n unig wedi’u helpu i gadw’u pennau uwchben y dŵr yn ystod gaeaf anodd.”  Gobeithio’n arw y gwelwn yr un llwyddiant ym Mlaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd ymhen rhai wythnosau.