Dylan Iorwerth yn egluro pam fod eisiau cydymdeimlo â’r heddlu … weithiau …

Anaml y bydd dyn yn teimlo’r angen i gydymdeimlo efo’r heddlu. Ar y cyfan, mae’r hogiau yn y glas yn hen ddigon abl i’w hamddiffyn eu hunain.

Ond, yn achos Raoul Moat, mae’n rhaid torri arfer oes. Y tro  yma, mae’r plismyn braidd yn yr un sefyllfa â gweithwyr cymdeithasol. Fedran nhw ddim ennill.

Dyma’r ail achos anferth i heddluoedd yng ngogledd Lloegr eu hwynebu o fewn ychydig tros fis i’w gilydd – yn un, mi gafodd 12 eu lladd; yn y llall, un.

Nid dyna’r unig wahaniaeth, wrth gwrs, rhwng lladdfa Cumbria a gwarchae Northumberland; yr hyn sy’n debyg ydi’r pwysau anferthol oedd ar y plismyn yn y ddau achos.

Ar ôl i Derrick Bird fynd ar ei sbri waedlyd, roedd yna feirniadu mawr am nad oedd yr heddlu wedi llwyddo i’w atal. Yn achos Raoul Moat, maen nhw dan y lach am adael iddo fo farw.

Mae yna gwestiynau i’w hateb y ddau dro – pa mor agos a ddaeth y plismyn at allu rhwystro Derrick Bird, beth oedd rôl y gynnau taser ym marwolaeth Raoul Moat a pham nad oedden nhw wedi cymryd mwy o sylw o rybuddion am y cyn fownsar.

Ond mae’n rhaid cadw cydbwysedd hefyd. Mae’r feirniadaeth gan aelodau o deulu Raoul Moat, er enghraifft, yn wirion.

Mae ei frawd mawr, er enghraifft, yn flin na chafodd gyfle i siarad efo fo pan oedd yn dal ei ddryll at ei ben ei hun. Brawd sy’n cyfadde’ dan yr un gwynt nad oedd wedi gwneud dim â Raoul Moat ers blynyddoedd mawr.

Roedd yna ewyrth – trwy briodas – a ffrind neu ddau hefyd yn dweud y bydden nhw wedi bod yn fodlon siarad â’r lladdwr … ond roedd yr heddlu a’u harbenigwyr yn gwbl iawn i wrthod.

Wedi’r cyfan, ryden ni’n deall bellach mai un o’r pethau a oedd wedi cynhyrfu’r saethwr ymhellach oedd sylwadau ei fam yn dweud y byddai’n well iddo farw.

Efo dyn o fewn ystum bys i farw, fedrai’r heddlu ddim mentro chwarae efo’i deimladau a gwneud hynny trwy gyfrwng pobol a oedd heb unrhyw brofiad yn y maes. Mae hynny, ynddo’i hun, yn dangos pa mor anodd ydi sefyllfa o’r fath.

Waeth faint o hyfforddiant y bydd neb wedi ei gael, does dim modd paratoi’n llwyr ar gyfer digwyddiad fel hyn. Mae plismyn unigol yn gorfod ymateb mewn amrantiad i bob math o ddatblygiadau ac yn gorfod mentro’u gyrfaoedd a hyd yn oed eu bywydau ar eu barn.

Efallai bod camgymeriadau wedi’u gwneud yn achosion Derrick Bird a Raoul Moat ond, wrth ystyried y rheiny, mae angen cydymdeimlad a sens.