Dylan Iorwerth yn croesawu’r gostyngiad – gyda rhai amodau…

Mae angen croesawu’r bwriad i leihau nifer aelodau seneddol Cymru.

Ers datganoli, does dim digon o waith iddyn nhw ei wneud ac mae llawer – gyda rhai eithriadau amlwg – yn llwyddo i osgoi unrhyw newyddion na gweithgaredd amlwg.

Ond mae yna amodau i’r croeso.

I ddechrau, mae angen i’r newid fod yn gall. Tydi gosod ffigwr cyson ô tua 70,000 o bobol i bob sedd ddim yn cwrdd â’r gofyn hwnnw.

Hyd yn oed y tu allan i’r Orkneys ac Ynysoedd Gorllewin yr Alban, mae yna fyd o wahaniaeth rhwng y pwysau ar AS gwledig ac un trefol. Felly, mae angen rhywfaint o amrywiaeth o hyd.

Yn ail, yr effaith ar y Cynulliad. Os bydd nifer y seddi yng Nghymru’n dod i lawr i 30, mi fydd hynna’n rhoi cyfle perffaith i gael dwywaith y ffigwr o seddi yn y Cynulliad, yn ychwanegol at y seddi rhestr.

Mi fyddai hynny’n golygu cael 80 o ACau i gyd, sy’n llawer mwy addas ar gyfer yr holl waith etholaeth a’r holl waith newydd o baratoi a thrin deddfau.

Chwarae efo’r map

Mi fydd cyfle bellach i bobol chwarae efo’r map – uno hen sedd Caernarfon a Meirionnydd efallai … Môn a Bangor, cael dwy sedd i’r cyfan o Sir Gaerfyrddin, dileu un o seddi Caerdydd – ac yn y blaen.

Mi fydd angen cyfuno seddi yn y Gogledd Ddwyrain ac yn y Cymoedd hefyd ond, os nac ydi lefel y pleidleisio am syrthio eto, mi fydd rhaid i’r seddi newydd wneud sens daearyddol a chymdeithasol a fydd hynny ddim bob tro yn ffitio i’r fformiwla.

Y gwir ydi y bydd y newid yn arwain at ganlyniadau mwy teg yn Lloegr hefyd – gwlad Geidwadol ydi honno ac fe ddaw hynny’n fwy a mwy clir.

A dyna’r amod mawr yn y pen draw. Siawns na fyddai’r sefyllfa newydd yn arwain at bwysau i wneud newidiadau go iawn – i’r berthynas rhwng Lloegr a’r gwledydd eraill ac i’r dull pleidleisio.

Cyfaddawd diddim ydi’r busnes pleidleisio AV – y bleidlais 1-2-3. Siawns nad oes gan y Democratiaid Rhyddfrydol go iawn ychydig gywilydd o’i gynnig ac esgus ei fod yn bleidleisio cyfrannol.

Ac mi ddylai’r Cynulliad – nid Ysgrifennydd Cymru – gael yr hawl, dan rai amodau, i newid dyddiad ei etholiadau ei hun, er mwyn osgoi dylanwad annheg o gyfeiriad Llundain.