A dyna ni, 1 Mawrth drosodd am flwyddyn arall!  Mae llawer o waith staff yr Eisteddfod yn canolbwyntio ar  y dyddiad hwn wrth i docynnau’r cyngherddau fynd ar werth.

Dyma’r cyfle cyntaf i weld a yw’r arlwy’n debygol o apelio, ac os yw nifer y galwadau ffôn, yr archebion arlein, a phobl yn dod i’r swyddfa i brynu  ddoe yn arwydd o’r hyn i ddod, gallwn groesi bysedd ein bod wedi llwyddo i greu cyfres o gyngherddau a fydd yn apelio at ymwelwyr o bob oed – yn Eisteddfodwyr selog ac ymwelwyr newydd.  Mi oedd hi fel ffair yn y swyddfa!

1 Mawrth yw cychwyn yr ymgyrch fawr i ddenu pobl i’r Eisteddfod.  Dyma pryd mae’r gwaith go iawn o hybu a hyrwyddo gŵyl eleni’n dechrau.  Er ein bod yn gweithio i godi proffil  yr Eisteddfod drwy gydol y flwyddyn, mae pethau’n newid gêr o 1 Mawrth ymlaen.  Ar hyn o bryd, mae 80,000 o lyfrynnau gwybodaeth wrthi’n cael eu dosbarthu ar hyd a lled y wlad, mae posteri newydd yn y wasg a safle docynnau newydd wedi’i lansio ar y we, felly mae popeth mewn lle i’n helpu ni gyda’r gwaith hwn dros y misoedd nesaf.

Brysiwch da chi yw’r neges i unrhyw un sy’n gobeithio cael lle yn y maes carafanau swyddogol.  Ychydig iawn o le sydd ar ôl, a chyda nifer o geisiadau’n dod drwy’r post bob dydd, buan iawn y bydd y safleoedd yma wedi’u llenwi.  Mae’r maes carafanau y drws nesaf i’r Maes ei hun eleni sy’n gyfleus iawn, a chynhelir Maes C yn Ysgol Clywedog – yr hen Ysgol Bryn Offa i’r rheini ohonoch a fagwyd yn yr hen ‘Clwyd’.  Byddwn yn cyhoeddi arlwy Maes C cyn bo hir hefyd – ac mae ‘na nosweithiau go arbennig yn y lein yp eleni, a buan iawn y bydd y tocynnau yna’n cael eu gwerthu – gobeithio!

Ond Eisteddfod symol iawn fyddai hi heb unrhyw gystadlu na seremonїau, felly tra bo’r gwaith cyhoeddus yn parhau i annog pobl i ddod atom, mae’r dyddiadau cau yn dal i gyrraedd ar gyfer cystadleuwyr.  Mae nifer ohonyn nhw wedi pasio erbyn hyn, ac  1 Ebrill yw’r dyddiad mawr nesaf – dyddiad cau y cystadlaethau cyfansoddi.

Ydych chi wedi clywed y si, ‘sgwn i?  Ydych chi wedi clywed bod rhai o feirdd Cymru wrthi’n brysur yn cynganeddu ac yn cyfansoddi mwy nag arfer?  Os ddyweda i 1912 ac 1977, efallai y byddwch yn gwybod am beth ydw i’n sôn.  Mae Eisteddfod Wrecsam yn arbennig i feirdd Cymru – dyma dref y ‘dybl dybl’.

Rydym wedi gweld y ‘dybl’ ychydig o weithiau rwan, sef yr un person yn ennill y Gadair a’r Goron – ond y ‘dybl dybl’?  Dim ond yn Wrecsam y mae hyn wedi digwydd – erioed.  Yn 1912, enillodd T.H. Parry-Williams y Gadair a’r Goron (ac aeth ymlaen i gyflawni’r ‘dybl’ eto ym Mangor dair blynedd yn ddiweddarach), ac yna yn 1977, tro Donald Evans o Dalgarreg oedd hi i sefyll ar ei draed brynhawn Mawrth a Iau i sain yr utgyrn!  Llwyddodd yntau i ailadrodd y gamp dair blynedd yn ddiweddarach yn Nyffryn Lliw yn 1980.

Ond yn ôl at y si eleni.  Maen nhw’n dweud bod rhai o’n beirdd yn bwriadu ymgeisio am y Gadair a’r Goron eleni, gan fod Wrecsam yn Eisteddfod lwcus iawn, ac mae ‘na un neu ddau eisiau creu hanes drwy droi Wrecsam yn dref y ‘trebl’.  Ond mae mis i fynd cyn y dyddiad cau hyd yn oed, ac ar  ôl hynny, mae’n rhaid i’r gwaith apelio at feirniaid y ddwy gystadleuaeth, a byddai’n rhaid i’r awdl a’r bryddest gyrraedd y brig.  Ond pwy â ŵyr!  Bydd rhaid disgwyl tan 5 Awst i weld a fydd Wrecsam yn ennill y trebl ac a fydd un o feirdd Cymru’n ymuno gyda T.H a Donald Evans yn Oriel yr Anfarwolion.

Ac wrth gwrs, pwt arall o newyddion – a nid si mo hon.  Rydan ni newydd gyhoeddi mai Dinbych fydd cartref yr Eisteddfod yn 2013, wrth i ni ddychwelyd i dir Fferm Kilford.  Ond mwy am hynna y tro nesaf!

150 o ddyddiau sydd i fynd tan yr Eisteddfod rwan – dydi o ddim yn amser hir, ac fel pob blwyddyn arall, mae llawer i’w wneud yn ystod y cyfnod byr hwn.  Byddaf yn  blogio’n rheolaidd dros y misoedd nesaf gyda rhai o’r straeon wrth i Wrecsam baratoi ar gyfer y Brifwyl – a chydag un neu ddau o bytiau eraill yma ac acw mae’n siwr!