Gwyn Thomas a Myrddin ap Dafydd yn trafod
Argraffiadau Non Tudur…

Un o sesiynau difyrra’r Ŵyl farddoniaeth Tŷ Newydd oedd y sesiwn rhwng Gwyn Thomas a Myrddin ap Dafydd ar atal y Gadair Genedlaethol eleni.

Roedd Myrddin a’i gyd-feirniaid – Gerallt Lloyd Owen a Peredur Lynch – wedi bod yn “crafu’n pennau am wythnosau” cyn penderfynu na allan nhw anwybyddu’r darnau gwannaf yng ngwaith y ddau ymgeisydd cryfa’. “Mae yna ddisgwyliad,” meddai Myrddin, a gyfaddefodd ei fod yn crynu yn ei sgidiau cyn traddodi’r feirniadaeth a siomi Pafiliwn cyfan.

Ond rhaid oedd cadw safon – byr yw seremoni, meddai, ond mae’r awdl yn para byth yn y Cyfansoddiadau. “Mae rhywun yn gorfod meddwl am y gynulleidfa sy’n mynd i ddarllen y cerddi yn ogystal,” meddai.

Roedd yn hiraethu am y 1970au a’r sesiynau trafod yn syth ar ôl seremonïau’r Gadair a’r Goron i ddal y beirniad i gyfri’. “Mae’n chwith bod y math yna o beth ddim yn digwydd mwyach.”

Beth sy’n cymell bardd i anelu at y Gadair felly? Ar ôl i fardd feistroli’r mesurau a dechrau cael hwyl mewn ymrysonau, mae’n dal i hogi’i arfau ac eisio profi’i hun felly mae anelu at y Gadair “yn uchelgais”.

Difyr iawn oedd clywed hanes sut yr aeth ati i ddechrau cynganeddu. Digwyddodd hynny yn sŵn ymrysonau yng ngheginau ffermydd Llanrwst pan oedd yn fachgen 13 oed. Roedd yna dri thîm ymryson yn Nyffryn Conwy yr adeg honno, meddai. Fe fyddai tua hanner cant o bobol yn gwasgu i mewn i’r gegin a’r beirdd yn gorfod mynd i’r llofftydd neu i’r closet i wneud eu tasgau. Gadawodd y traddodiad hwn gryn argraff ar y bardd ifanc. Dywedodd RE Jones wrtho un tro, ‘Mi ydach chi’n sylweddoli does yna’r un diwylliant arall yn gallu cynnal noson fel hon.’ Aeth y llanc i’w wely’r noson honno (roedd yn rhannu llofft gyda phedwar o frodyr) a chyfansoddi ei englyn (“gwallus!”) gyntaf erioed. Sbragiodd ei frawd wrth eu rhieni dros y bwrdd brecwast a dyna selio tynged y bardd yn yr union fan. Fe gafodd lyfr o gynganeddion yn anrheg. Yn y byd mawr tu allan, meddai, roedd Cymdeithas yr Iaith yn protestio a gweiddi am gadw iaith, ac roedd y bardd ifanc am “gadw” y traddodiad gwerin hwyliog a deallusol hwnnw.

Fe gafodd ei ysbrydoli i gystadlu ar ôl darllen awdl fuddugol Idris Reynolds yn Llanrwst 1989 ar y testun ‘Taith’ lle gofynnai’r Prifardd ‘A oes mab ym Morlas mwy?’ (yr awdl yn cyfeirio at ganu Llywarch Hen a’r henwr yn colli 24 mab mewn brwydr, sy’n symbol am dranc yr iaith). Roedd Myrddin newydd gael mab ac “Ro’n i eisiau dweud ‘oes’,” meddai. Dechreuodd ar ei awdl fuddugol ‘Gwythiennau’ yr wythnos honno.

Yr ysbrydoliaeth arall arno oedd cywyddau beirdd fel Tilsley a oedd barddoni am bethau gwledig diriaethol yn hytrach na’r hen gywyddau diwinyddol. “Dw i’n tueddu i hoffi’r math yna o ganu’n uniongyrchol,” meddai.

Un awgrym sydd gan Myrddin ap Dafydd i gywion-brifeirdd – yw darllen awdlau eraill mewn hen Gyfansoddiadau. Ond mae hi’n anoddach ffeindio eich llais eich hun mewn canu caeth na chanu rhydd, meddai.

“Mae rhywun yn tueddu i sgwennu i genhedlaeth hŷn na chi… rydach chi’n sgwennu yng nghyd-destun y parch yna. Dach chi eisio clywed nhw’n parchu eich gwaith. Yna rydach chi’n sgwennu i genhedlaeth eich hun, yna i genhedlaeth iau na chi. Dyna pryd ydach chi’n dod o hyd i’ch llais.”

Dylid nodi cyfraniad bywiog a helaeth Gwyn Thomas yn y sgwrs, yn gallu procio a symud y sgwrs ymlaen yn ei ffordd ddeheuig ei hun, gyda help sawl stori ffraeth am ryw fardd cocos neu’i gilydd. Roedd yn ddigrif iawn yn sôn am y bobol “syrffedus” yna sy’n cynganeddu pawb a phopeth. Fe gawson ni ambell berl o gymhariaeth gan Gwyn Thomas – “mae ambell awdl fatha olwynion sgwâr o ran eu cynghanedd,” meddai.

Dyna’r broblem yn Ninbych eleni felly, gormod o olwynion sgwâr.

***

Guto Dafydd oedd yn traddodi darlith yr ŵyl eleni, ac fe gyflwynodd ei ymchwil ar waith ei arwr, y diweddar Iwan Llwyd yn dwt ac yn ystyrlon.

Daeth â’r dyn yn fyw – ei gryfderau a’i wendidau. Bardd disgleiriaf ei oes, yn ôl yr ysgolhaig ifanc (ymddiheurodd yn gwrtais i Myrddin ap Dafydd a Dafydd John Pritchard a oedd yn y gynulleidfa ar ôl y sylw yma).

Dechreuodd yn y dyddiau diniwed hynny pan oedd Iwan Llwyd yn fyfyriwr yn byw mewn tŷ blêr yn Aberystwyth gyda glas-lenorion fel Emyr Lewis a Wil Garn (Wiliam Owen Roberts). Fe fuodd e a Wil Garn yn rhwystredig gyda’r hen drefn ysgolheigaidd o ddysgu’r traddodiad barddol. Er i’r ddau sgrifennu erthyglau yn lambastio’r gorbwyslais ar y Cynfeirdd a Beirdd yr Uchelwyr, eglurodd Guto Dafydd y byddai’r traddodiad yma yn arwyddbost i Iwan ar ei deithiau drwy’i oes. Roedd yn fardd a oedd yn “reslo â’r traddodiad” ond yn hoffi delwedd y clerwr ac roedd teithiau’n apelio ato. “Roedd nabod ei wlad yn hanfodol iddo,” meddai, “yn gwybod bod y beirdd wedi teithio o’i flaen.”

Y daith a wnaeth gyda Twm Morys i America yn 1998 oedd y daith fwya’ ryfeddol fuodd o dan bennau dau fardd Cymraeg erioed,” yn ôl Guto Dafydd. Eglurodd ei fod wedi “ymuniaethu” â’r teithiwr talog TH Parry-Williams, ond hefyd fawrion yr UDA – Neil Young, a Bob Dylan a’i Subterranean Homesick Blues.

Eglurodd sut y mae’r bardd yn ei gerdd ‘Harley Davidson’ yn cymharu gweithwyr ffatri’r cwmni motobeics enwog gyda’r Cymry a adeiladodd y cestyll Seisnig – gan felly gymharu grym ymerodraethol America a’r bonedd Seisnig.

Dangosodd drwy ei deithiau barddol, ei golofnau yn Barddas a’i ran mewn grwpiau fel Steve Eaves a Geraint Lovgreen bod ganddo grwsâd i “boblogeiddio barddoniaeth.”

Roedd yn ddyn pobol “nid dyn rhai pobol”, fel y dywedodd Llion Jones amdano.

Fe’i darluniodd nid yn unig fel bardd taith ond yn fardd a oedd yn ‘teithio amser’ – yn camu’n ôl drwy hanes at feirdd y llysoedd. Fe deithiodd Gymru yn ol traed y Cynfeirdd. Eu rhwystrau nhw oedd eira a thywydd garw; rhwystrau Iwan Llwyd rownd Cymru oedd lorïau Mansel Davies. Bu farw Iwan Llwyd fis Mai 2010 yn 52 oed.

***

Un o uchafbwyntiau eraill y diwrnod oedd darlithiau byrion Llyr Gwyn Lewis a Gruffudd Antur – y naill ar gerddi amlieithog ac agweddau deublyg y bardd T Gwynn Jones; a’r llall ar arferion yr hen ysgolion barddol. Da iawn gweld bod Twm Morys yn recordio’r sgyrsiau yma ar ei feicroffon hei-tec, felly disgwyliwn eu gweld yn eu cyfanrwydd efallai rhwng cloriau Barddas yn fuan.

Sesiwn gerddorol braf oedd un Gwyneth Glyn yn olrhain ei thaith gyda Tauseef Akhtar o’r India yn rhan o’r deuawd Ghazalaw. Eglurodd hi gyda chymorth Aneirin Karadog beth oedd traddodiad y canu serch ‘ghazals’ – sy’n cael ei ynganu rhywbeth tebyg i ‘chysls.’ Ac fe gafodd 11 ohonon ni gopi o’r EP Ghazalaw – alawon gwerin Cymraeg ymhleth â’r hen alawon Indiaidd – ar CD, mewn cwdyn brethyn smart a oedd wedi’i wnïo â llaw gan Gwyneth ei hun. Ydi, mae hi’n aml-dalentog.

Bargen o brynhawn am £12.