Dim ond wythnos sydd  ar ôl i bobl gyflwyno cais am docyn am ddim i faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar y dydd Sul eleni. Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, sy’n dehongli llwyddiant y cynllun newydd hwn, ynghyd â rhoi rhai ystadegau difyr ynglŷn a phwy sydd wedi cymryd mantais o’r cynllun.

Erbyn hyn, cwta wythnos sydd i fynd cyn y bydd y cynllun mynediad am ddim yn dirwyn i ben.  Gyda thros 19,000 o geisiadau am docynnau wedi’u derbyn hyd yn hyn – ac maen nhw’n dal i lifo mewn yn ddyddiol – mae’r cynllun hwn a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn llwyddiant mawr.

Y bwriad yn y lle cyntaf oedd denu cynulleidfa newydd i’r Eisteddfod.  Wedi’r cyfan, cynhelir Prifwyl eleni mewn ardal sydd heb fod yn gartref iddi ers dros hanner canrif.  1958 oedd y flwyddyn ddiwethaf i’r Eisteddfod ymweld â Glyn Ebwy, ac mae’r dref a’r Eisteddfod ill dwy wedi newid tipyn go lew ers hynny.

Roedden ni’n gobeithio y byddai’r cynllun mynediad am ddim ar y dydd Sul yn apelio at deuluoedd sy’n byw o fewn awr o daith i’r Maes; y rheini, efallai nad oedd erioed wedi bod i’r Eisteddfod o’r blaen, neu efallai wedi galw draw am ddiwrnod pan oedd yr Eisteddfod yng Nghasnewydd yn 2004, neu yng Nghwm Rhymni ugain mlynedd yn ôl yn 1990.

Rhoddwyd blaenoriaeth i geisiadau lleol am yr wythnosau cyntaf, ac roedd yr ymateb yn rhyfeddol – cannoedd o geisiadau’n ein cyrraedd yn ddyddiol, ar y ffôn, trwy’r we a thrwy’r post.  Erbyn hyn, rydym hefyd wedi bod yn croesawu ceisiadau o bob cwr o Gymru am rai wythnosau, ac mae’r ymateb ym mhob rhan o’r wlad wedi bod yn arbennig o dda, a chydag wythnos i fynd, y neges yw brysiwch i wneud cais cyn y dyddiad cau.

Wrth dderbyn ceisiadau am docynnau eleni, rydym wedi bod yn casglu data am bawb sydd wedi gwneud cais, ac mae hyn wedi bod yn ddiddorol a defnyddiol iawn.

Mae 84% o’r ceisiadau wedi dod o ardal Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, gyda 44% o’r rheini sydd wedi gwneud cais rhwng 25 a 44 oed, sef ein hoedran darged ni’n fewnol pan yn rhoi’r cynllun at ei gilydd.

Bydd 69% o’r rheini sydd wedi gwneud cais am docyn yn mynychu Eisteddfod am y tro cyntaf eleni, a’r ganran hon ar ei huchaf (75%) ymysg y rheini rhwng 45 a 54 oed, ac ar ei mwyaf isel (52%) ymysg y rheini rhwng 55 a 64 oed.

Yn genedlaethol, 14% o’r rheini a wnaeth gais am docyn sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, gyda’r ganran hon ar ei huchaf ymysg y rheini rhwng 16 a 24 oed (28%) ac ar ei mwyaf isel ymysg y rheini dros 65 oed (9%) – dim sioc yn fan’ma efallai, ac mae hwn yn ffigwr calonogol i’r iaith a’i thwf yn lleol.

Ffigwr arall sy’n galonogol i’r iaith a’i thwf yn lleol yw nifer y rheini sydd yn awyddus i dderbyn rhagor o wybodaeth am ddysgu Cymraeg – 16% ymysg pawb.  Unwaith eto, y rheini rhwng 16 a 24 oed sy’n dangos y diddordeb mwyaf yn yr iaith gyda 27% o’r rheini sy’n methu siarad Cymraeg yn dweud eu bod am dderbyn rhagor o wybodaeth am wersi Cymraeg yn eu hardal, ac unwaith eto, y rheini dros 65 oed (7%) sydd yn lleiaf tebygol o fod am ddysgu’r iaith.

Gyda cheisiadau’n dal i’n cyrraedd, ni fyddwn yn paratoi adroddiad terfynol am rai wythnosau, ond mae’r data rydym eisoes wedi’i gasglu’n ddiddorol iawn ac yn help i ni gynllunio ein gwaith cyfathrebu dros y blynyddoedd nesaf, a chyda’r sampl bron yn 5000 erbyn hyn, mae’n llawer mwy dibynadwy na nifer fawr o arolygon sy’n cael sylw yn y wasg a’r cyfryngau’n ddyddiol.

Ond er mor ddiddorol yw ystadegau, yr hyn sy’n  bwysicach i ni yw sicrhau bod y 19,000 a mwy o bobl sydd wedi gwneud cais am docyn hyd yn hyn yn cael diwrnod i’w gofio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a’u bod yn dychwelyd atom yn nes ymlaen yn yr wythnos yn  Y Gweithfeydd, Glyn Ebwy.

Felly – cofiwch – wythnos i fynd i wneud cais, ac os na fyddwch wedi cofio gwneud, bydd croeso i chi ar y Maes ar y dydd Sul, ond bydd rhaid talu am docyn ar y giat.  Edrychwn ymlaen i’ch gweld ymhen rhai wythnosau!