Gyda wythnos fawr yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent yn prysur ddynesu, trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, sy’n trefod y trefniadau diweddaraf…

Saith wythnos i ddydd Gwener diwethaf yw’r diwrnod.  Erbyn y diwrnod hwnnw, mae’n rhaid i bopeth fod yn barod; popeth yn ei le; pob ‘t’ wedi’i chroesi a phob ‘i’ wedi’i dotio, chwedl y Sais.  Saith wythnos i ddydd Gwener a bydd y giatiau’n agor am 17.00.  Saith wythnos – mae’r cyngerdd agoriadol yn digwydd ar lwyfan y Pafiliwn.

Bu’r wythnosau diwethaf yn eithriadol o brysur – ac mae hi’n prysuro!  Mae rhestr testunau 2011 yn y wasg a Rhaglen Swyddogol eleni’n cael ei gwblhau gan y dylunwyr.  Ymhen tair wythnos bydd rhaid troi cefn ar baratoadau Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd am benwythnos wrth i’r Orsedd a’i holl ysblander gyrraedd Wrecsam ar gyfer Seremoni’r Cyhoeddi, ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf.  Ac mae ’na ddigonedd o weithgareddau’n digwydd yn ystod y dydd hefyd – ond stori ar gyfer diwrnod arall yw honno.

Felly, nôl at y ffaith mai dim ond saith wythnos sydd i fynd rŵan, ac mae’r Maes wedi dechrau newid yn barod.  Mae’r gweithwyr wedi hen symud i mewn – ac yn byw yn rhesi o garafanau sydd wedi ymddangos yng nghornel y safle – ac maen nhw wrthi’n brysur yn dechrau ar y gwaith o baratoi’r Maes.  Fydd dim byd amlwg i’w weld am rai wythnosau eto; mae’n rhaid gwneud tipyn o waith paratoadol er mwyn creu safle a fydd yn dal tua 160,000 o ymwelwyr.  Ond cyn bo hir, bydd y Pafiliwn pinc yn ymddangos – yn llawer cyflymach nac y byddai unrhyw un yn ei ddychmygu – ac ar ôl hynny, bydd pawb yn gwybod bod yr Eisteddfod ar ei ffordd!

Ddydd Iau diwethaf, roedden  ni’n dathlu mai hanner can diwrnod sydd i fynd cyn dechrau’r Eisteddfod.  Deugain a phump erbyn heddiw, ac mae’n rhyfeddol faint o waith sy’n gallu cael ei wneud mewn cyn lleied o amser.  Er bod llawer o’r gwaith eisoes wedi’i wneud ac yn ei le, mae rhan fawr o’r gwaith marchnata a chodi proffil, creu nwyddau a llyfrynnau, yn digwydd o hyn ymlaen, pan mae’r pebyll wedi’u trefnu a’r stondinwyr yn gwybod beth sy’n digwydd.  Dyma pryd fydd ein tîm ni a’n dylunwyr yn mynd ati i roi popeth yn ei le i sicrhau bod ymwelwyr yn cael gwybod beth sydd digwydd ac yn lle ar hyd a lled y Maes yn ystod yr wythnos.

Ac mae digonedd yn digwydd, ac nid yn unig ar y Maes ond mewn gwahanol lefydd yn yr ardal.  Roedd un o’r tîm yng nghanolfan siopa Festival Park ddoe yn dosbarthu ein pecynnau busnes ni yno.  Mae Festival Park yn trefnu gweithgareddau dros yr wythnosau nesaf, yn cynnal cystadleuaeth ffenest siop arbennig ac yn rhoi fflagiau i fyny dros bob man – yn ffoli ar fflagiau go iawn.  Mae’u cefnogaeth wedi bod yn ardderchog dros y misoedd diwethaf, a gobeithio y bydd Eisteddfodwyr yn cymryd mantais o’r bws gwennol rhad ac am ddim a fydd yn rhedeg o’r Maes i’r ganolfan yn ystod yr wythnos – ar ôl diwrnod llawn ar y Maes, wrth gwrs!

Gyda saith wythnos i fynd, gobeithio bod pobl ar hyd a lled Cymru’n dechrau edrych ymlaen ar gyfer yr Eisteddfod rŵan ac yn paratoi i ddod i gefnogi gwaith caled Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd.   Unwaith y daw gwahanol gyhoeddiadau o’r wasg, bydd y Pafiliwn i fyny, y rhagolwg tywydd hirdymor yn addo haf go iawn ac un neu ddau o bethau eraill, gallwn ninnau ddechrau edrych ymlaen go iawn at yr Eisteddfod, a  bydd hon eleni yn wythnos arbennig i’w chofio!