Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Ne Affrica fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.

Yr Ariannin yw un o’r timau cryfaf yng Nghwpan y Byd o ran chwaraewyr ond mae yna amheuon mawr ynglŷn â gallu’r hyfforddwr Diego Maradona. Serch hynny, tu ôl i Sbaen a Brasil, nhw yw ffefrynnau’r bwcis i ennill y gystadleuaeth.

Y Wlad

Poblogaeth: 36 miliwn

Prif iaith: Sbaeneg

Prifddinas: Buenos Aires

Arweinydd: yr Arlywydd Cristina Fernández de Kirchner

Llysenw: Albiceleste (y glas golau a’r gwynion)

Yr Hyfforddwr

Diego Maradona:

O’r holl hyfforddwyr yn y gystadleuaeth, yr enwocaf ac efallai’r un mwyaf dadleuol yw Diego Maradona. Ym marn rhai, ef oedd y pêl-droediwr mwyaf talentog erioed, gan arwain yr Ariannin i fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd 1986. Eto ychydig o brofiad a gafodd yn rheoli timau pêl-droed a dim ond o drwch blewyn y llwyddodd yr Ariannin i gyrraedd rowndiau terfynol 2010.

Y Daith

Gyda holl dimau de America yn chwarae ei gilydd mewn gemau rhagbrofol ddwywaith dros gyfnod o ddwy flynedd, roedd angen i’r Ariannin orffen yn y pedwar cyntaf i fod yn siŵr o’i lle yn Ne Affrica. Wedi colli 6-1 yn erbyn Bolifia a 3-1 yn erbyn yr hen elyn Brasil, roedd gobeithion tîm Maradona yn pylu’n gyflym, ond wedi crafu buddugoliaeth dros Periw yng ngwynt a glaw Buenos Aires, a churo Uruguay yn Montevideo gyda gôl hwyr gan Bolatti, llwyddwyd i gipio’r pedwerydd safle.

Y Record

Mae’r Ariannin wedi chwarae ym mhedwar rownd derfynol gan ennill dwy (1978, 1986) a cholli dwy (1930, 1990). Curwyd yr Iseldiroedd 3-1 ym mhrifddinas yr Ariannin, Buenos Aires, yn 1978, a’r Almaen 3-2 ym Mecsico yn 1986.

Sêr o’r Gorffennol

Mario Kempes:

Blaenwr pwerus a sgoriodd ugain gôl dros ei wlad. Ef oedd y prif sgoriwr yng Nghwpan y Byd 1978, a sgoriodd ddwy gôl yn y rownd derfynol.

Diego Maradona:

Chwaraewr gorau ei ddydd, ef oedd capten y tîm a gipiodd Cwpan y Byd yn 1986. Enillodd 91 cap gan sgorio 34 gôl.

Gwyliwch Rhain

Carlos Tevez:

Mae’r tarw o flaenwr o Manchester City wedi ennill dros hanner cant o gapiau i’r Ariannin gan sgorio 8 gôl. Mae’n rhoi cant y cant ym mhob gêm ond mae ei agwedd danllyd yn gallu arwain at drafferthion – cafodd ei ddanfon o’r maes ddwywaith yn ystod y gemau rhagbrofol.

Gonzalo Higuaín:

Cafodd blaenwr ifanc Real Madrid ei alw’n hwyr i garfan Maradona gan sgorio gôl hollbwysig yn erbyn Periw ar ei ymddangosiad cyntaf. Mae ei gyflymder a’i ergydio nerthol yn medru achosi hunllef i’r amddiffynwyr gorau.

Y Seren

Lionel Messi:

Bydd gobeithion yr Ariannin o lwyddiant yn 2010 yn ddibynnol ar yr asgellwr bach chwim a dyfeisgar Lionel Messi. Dewiswyd La Pulga (y chwannen) yn chwaraewr gorau’r byd yn 2009 ond yn bennaf am ei berfformiadau llachar yng nghrys Barcelona yn hytrach na dros yr Ariannin. Mae eto i lwyr argyhoeddi yn lliwiau’i wlad ond caiff y driblwr dawnus hwn y cyfle i brofi ei hun yn Ne Affrica.