Rhai o argraffiadau Huw Prys Jones o gynhadledd Plaid Cymru yn Llandudno yr wythnos ddiwethaf…

Rali i lansio’i hymgyrch ar gyfer yr etholiad cyffredinol oedd cynhadledd Plaid Cymru yn Llandudno eleni.

Nid oedd hyn yn annisgwyl, gan mai unig ddiben y mwyafrif o gynadleddau gwleidyddol y dyddiau yma ydi fel ffynhonnell o gyhoeddusrwydd cymharol hawdd i’r pleidiau.

Er mai digon cymysg y bu’r ddegawd ddiwethaf i Blaid Cymru o safbwynt perfformiad mewn etholiadau, mae ysbryd yr aelodau’n amlwg yn uchel.

Yr hyn a newidiodd holl ragolygon y Blaid oedd y sylweddoliad graddol ymysg amryw o’i gwleidyddion mwyaf blaenllaw tua phum mlynedd yn ôl y byddai’n rhaid ystyried y posibilrwydd o glymbleidio gyda’r Torïaid yn y Cynulliad.

Unwaith y dechreuodd y trafodaethau i’r perwyl hwn wedi etholiad 2007, newidiodd holl ddeinameg gwleidyddiaeth Cymru. Am y tro cyntaf ers cenedlaethau, collodd Llafur ei monopoli a bu’n rhaid iddi gynnig rhannu grym efo’i hen elyn, Plaid Cymru.

Breuddwyd aelodau’r Blaid am ddegawdau, wrth gwrs, fu disodli’r Blaid Lafur fel y brif blaid yng Nghymru.

Os nad yw trechu’r Blaid Lafur yn ymddangos mor gwbl amhosibl mewn etholiad cynulliad bellach, mae hynny oherwydd y chwalfa debygol ym mhleidlais Lafur yn fwy nag unrhyw gynnydd dramatig yng nghefnogaeth y Blaid. Mae natur y chwalfa honno – gyda phleidleisiau’n mynd i bob cyfeiriad – yn awgrymu na chaiff unrhyw blaid y math o oruchafiaeth ar wleidyddiaeth Cymru ag a gafodd Llafur.

O ran yr etholiad cyffredinol, mae’r Blaid yn gorfod dygymod â thargedau tipyn llai uchelgeisiol.

Yn wahanol i rai etholiadau yn y gorffennol, mae’n gwbl agored ynglŷn â’i tharged o ennill saith o seddau – sef yr etholaethau y mae’n eu dal yn y Cynulliad, a’r rhai lle’r oedd ar y blaen yn etholiad Ewrop.

A’r angen am ragor o aelodau seneddol Plaid Cymru oedd prif neges yr arweinydd Ieuan Wyn Jones yn ei araith.

Ni chyfeiriodd fawr ddim at ei waith fel dirprwy Brif Weinidog ac, yn ddoeth efallai, ni wnaeth unrhyw ymrwymiadau ychwaith.

Gyda’r Blaid yn gyson yn gwneud yn salach mewn etholiadau San Steffan nag etholiadau eraill, roedd yna gryn ymdrech gan wahanol siaradwyr i ddadlau’r angen am gefnogaeth mewn etholiad cyffredinol yn ogystal. Ond er bod hyn yn gwbl glir i’r cynadleddwyr, tueddu i ailadrodd yr un dadleuon oedd y siaradwyr, heb fawr ddim byd gwreiddiol yn cael ei ddweud ar y mater.

* * *
Am ryw reswm, mi welwyd yn dda i ailadrodd yr hen neges nad plaid ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig ydi hi – a cheisio pwysleisio cymaint o’i chefnogwyr sydd ddim yn gallu siarad yr iaith.

Mi fyddwn i’n amau doethineb hyn.

I ddechrau, mae’n syndod bod yr unig blaid sydd ag AC o leiafrif ethnig yn teimlo’r angen i wneud datganiad o’r fath.

Ond hyd yn oed os ydi ymchwil yn dangos fod canfyddiadau o’r fath yn parhau, mae angen mynd i’r afael â nhw mewn ffordd llawer mwy cynnil. Y cwbl y mae ailadrodd canfyddiadau fel hyn yn ei wneud ydi tynnu sylw atyn nhw – ac efallai plannu’r syniad o’r newydd yng ngolwg rhai pobl.

Mae pob un o’r prif bleidiau am ddweud eu bod nhw’n blaid ar gyfer pawb o bobl Cymru, beth bynnag eu cefndir, beth bynnag eu hiaith a lle bynnag y maen nhw’n byw. Does dim byd haws na dweud hynny.

Os am ehangu ei chefnogaeth mae gofyn i’r Blaid ddefnyddio llawer mwy o ddychymyg yn y ffordd y mae’n estyn allan – gan ddangos lle i amrywiaeth mewn agweddau a syniadaeth yn ogystal.

Mae hi eisoes yn ennill cefnogaeth llawer iawn o bobl nad ydyn nhw’n cefnogi annibyniaeth i Gymru a llawer o bobl hefyd a fyddai’n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr yn ogystal ag yn Gymry.

Ond faint o ymdrech sy’n cael ei wneud i estyn allan at fwy o bobl fel hyn?

Beth am ddechrau trwy ddweud ei bod yn blaid i bawb beth bynnag fyddai eu barn ar annibyniaeth i Gymru rywbryd yn y dyfodol? Neu ddangos y gallai hi fod yn blaid berthnasol hefyd i bobl sy’n teimlo’u hunain yn Gymry ac yn Brydeinwyr?

Byddai negeseuon hyderus a radical fel hyn yn cael llawer mwy o argraff na rhyw ddatganiadau llipa sydd mor hawdd eu dehongli fel ymgais i wneud rhinwedd o anallu i siarad Cymraeg.
Uchafbwynt araith Dafydd Iwan fel llywydd, heb unrhyw amheuaeth, oedd pan ddarllenodd ran o’r araith a wnaeth o flaen Llys y Goron Abertawe yn 1971 pan oedd yn un o wyth aelod o Gymdeithas yr Iaith a oedd wedi eu cyhuddo o gynllwynio i falu arwyddion ffyrdd.

Roedd y geiriau, â dylanwad Martin Luther King a’r frwydr hawliau sifil mor amlwg arnynt, yn perthyn i fyd hollol wahanol i’r ystrydebau banal sydd wedi diflasu cymaint o bobl ynghylch gwleidyddiaeth heddiw.

“Faswn i byth yn medru sgwennu araith fel’na heddiw,” meddai. Os ydi hynny’n wir, amgylchiadau gwahanol yn hytrach nag unrhyw ddiffyg ynddo fo fyddai’n gyfrifol am hynny.

Natur cenedlaetholdeb Cymreig sydd wedi newid. Dydi pethau ddim yn agos mor ddu a gwyn erbyn hyn. Er gwaethaf y pryderon gwirioneddol am ddyfodol cymunedau Cymraeg, fedrwn ni ddim honni ein bod ni’n lleiafrif sy’n cael ein dirmygu a’n sathru gan rym imperialaidd bellach.

Ac anodd os nad amhosibl i drafodaethau ar faterion cyfansoddiadol a chyfreithiol fel eLCOs a hawliau deddfu i’r Cynulliad ennyn yr un math o angerdd ag a wnaeth y frwydr dros barch i’r Gymraeg ar arwyddion ffyrdd.

A phrun bynnag, does dim sicrwydd y byddai hynny’n beth cadarnhaol o angenrheidrwydd. Rhaid cofio iddi gymryd cenhedlaeth a mwy cyn y gwnaeth gweithredoedd pobl ifanc fel yr wyth aelod rheiny o Gymdeithas yr Iaith arwain at newid agweddau at yr iaith.

Mae newidiadau yr un mor sylfaenol, wrth gwrs, wedi bod yn agweddau pobl at y syniad o Gymru fel cenedl ers y dyddiau hynny – ond nid yn unol â disgwyliadau cenedlaetholwyr Cymreig o angenrheidrwydd.

Un o’r pethau y tynnodd Dafydd Iwan sylw atynt yn ei araith, er enghraifft, oedd am filwyr yn canu ei ganeuon yn eu barics. Hynod drawiadol hefyd ydi gweld cymaint o ddreigiau coch yn hytrach nag iwnion jacs yn cael eu defnyddio gan filwyr a’u teuluoedd – hyd yn oed mewn angladdau milwrol.

Ynghanol y gweddnewidiad mewn agweddau at yr iaith ac at genedligrwydd Cymreig, rhaid sylwi ar yr un pryd nad does dim arwydd o unrhyw dwf yn y dyhead am annibyniaeth lwyr i Gymru. Mae wedi aros yn gyson o gwmpas tua 10-12 y cant – gyda’r arolwg manwl diweddaraf yn dangos mai dim ond 25 y cant o gefnogwyr Plaid Cymru hyd yn oed sy’n cefnogi annibyniaeth fel nod.

Mae’n ymddangos fod yna ddeuoliaeth ryfedd wedi datblygu rhwng Cymreictod a Phrydeindod. Deuoliaeth na fyddai, o bosibl, llawer o Bleidwyr yn ei chymeradwyo. Ond mae dod i ddeall y ddeuoliaeth hon yn well, ac yn wir ei derbyn, yn rhywbeth y bydd yn rhaid i Blaid Cymru ei wneud os ydi hi am dorri tir newydd yn y dyfodol.