Y dorf yn gwylio Edward H Dafis nos Wener
Edward H Dafis

Neithiwr fe es i gyngerdd olaf anhygoel y band chwedlonol ‘Edward H Dafis’ ar y maes, ac yn wir, dyna i chi gyngerdd. Roedd y morio canu yn y dorf, dagrau Dewi Pws ac wrth gwrs un neu ddau gamgymeriad mewn ambell gân wedi gwneud hi’n gyngerdd cofiadwy.

Buasai’n ddiddorol cael gwybod faint o dorf oedd ym Maes B ar ddechrau’r noson gan fod perfformiadau Edward H a bandiau cynta’r noson ym Maes B yn digwydd ar yr un pryd. Hyd y gwn i, roedd llawer fawr iawn o bobl ifanc yn gwylio Edward H ar y maes, ac yn fwy na hynny, roedden ni gyd reit yn y blaen. Yn hyn o beth, dwi’n ddiolchgar iawn i’r band am chwarae neithiwr gan roi cyfle i ni, ‘yr ieuanc’, i allu profi ychydig o’r chwyldro ‘sigl a chraig’ (yng ngeiriau Dewi Pws) a ddigwyddodd yn y 1970au.

Bu rhai problemau sain, a achosodd i mi golli’ng nghlyw yn fy nghlust chwith am ychydig, ond serch hynny roedd hi’n grêt cael teimlad o ŵyl gerddorol go iawn ar faes yr Eisteddfod am unwaith gyda’r dorf enfawr ac roedd hi wir yn brofiad arbennig a hanesyddol mae’n siŵr.