Steddfod yn llawn

Dim ond gair i unrhywun sydd heb ddod ar y maes eto – peidiwch dod. Mae mor llawn yma, a dwi’n cymryd mai’r rheswm yw’r gig olaf iconig sydd i ddod. Os y’ch chi ddim yn un sy’n delio gyda tyrfaoedd o bobl yn symud fel morgrug araf rownd llwybrau’r maes, arhoswch yn eich pabell.


Edward H Dafis yn soundchekio y bore 'ma
Blog Byw Steddfod Llewelyn – Dydd Gwener

Cowbois Rhos Botwnnog oedd sêr Maes B neithiwr ac roedd hi wir yn brofiad arbennig gwrando ar ei set mwy bywiog na’r arfer a oedd yn cydfynd gyda egni’r babell. Ond i ychwanegu at hyn, dwi ar y foment yn blogio i sŵn soundcheck Edward H Dafis cyn ei gig olaf erioed, yn ôl pob sôn (cawn weld am hynny) a fydd heno ’ma ar y llwyfan perfformio.

Cyn hynny fodd bynnag, mae’r band dwi ynddo, ‘Bromas’, am wneud un neu ddau set fach ym mhabell Cymdeithas yr Iaith a’r Urdd. Mae’r setiau tebyg wedi bod yn eithaf llwyddiannus hyd yn hyn, ond yr uchafbwynt dwi’n siwr fydd nos yfory ym Maes B.