Dydd Llun, 5 Awst

Yr ateb i boblogrwydd yr Eisteddfod fyddai creu pabell gwynion. Mi fyddai pawb yn heidio yno, yn enwedig ar ddechrau’r wythnos.

Dyna sy’n cadw pobol i fynd tan y Coroni – ffeindio beiau a’u lleisio nhw’n uchel o gwmpas y maes. Siom fawr i bawb ydi fod y traffig wedi mynd fel wats – hyd yma.

Ond mae gen i gwyn sylweddol iawn, iawn ar ran y werin datws.

Mae yna ddau ran bellach i’r maes carafanau – un i garafanau (glei) a’r llall i bebyll. Yn rhan y carafanau, mae yna gasgliad o doiledau a chawodydd digon dymunol. Yn rhan y pebyll, rhes bitw o bortalŵs.

Rŵan, mae pawb sydd wedi gwersylla mewn pabell (fel fi) yn gwybod mai ni sydd fwya’ o angen cyfleusterau molchi a ballu. Mae’r carafanau crand yn llawn dop o drugareddau fel toiledau cemegol a jacwsis a phyllau nofio.

Felly cyngor i awdurdodau’r eisteddfod – trowch bethau fel arall a rhoi’r toiledau a’r cawodydd moethus yn yr adran bebyll.

Cyngor i eisteddfodwyr – cadwch yn glir o babellwyr neu, o leia’, sefwch rhyngddyn nhw a’r gwynt.

Nos Lun

Am y Gild – tafarn gigiau Cymdeithas yr Iaith. Mae’n dda gallu mynd i mewn i’r dref – yr elfen sy’n mynd ar goll yn yr Eisteddfod fodern.

Plwyf Llanwenog a Beirniad Eisteddfodol wedi meddiannu un gornel. Y gwin yn llifo i gyfeiriad y Beirniad nes i’r lleill sylweddoli nad oedd hi’n beirniadu ar eu cystadleuaeth nhw.

Syniad da cael lle ar gyfer nosweithiau acwstig, mwy clos, ond fod bar yn yr ystafell yn golygu criw swnllyd yn boddi llawer o geinder y sŵn i bawb oedd yn hanner cefn y stafell.

Clywed digon i wybod bod Kizzy Crawford yn dipyn o seren a bod Gwyneth Glyn yn hael wrth gydweithio efo gweddill yr artistiaid, a’r amrywiaeth o’i chwmpas yn cryfhau ei chaneuon unigol hithau.

Rhywdro, am ryw reswm, tua hanner ffordd trwy set Gareth Bonello, mi dawodd y terfysgwyr a mynd – mewn pryd i werthfawrogi manylion y gwaith gitâr a’r fenter ysgubol (a llwyddiannus) o orffen efo cân offerynnol.

Georgia Ruth yn cloi efo’r rhan fwya’ o’r Cowbois yn gefndir. Cyfuniad o ganeuon gwerin a chaneuon gwreiddiol a’r cyfan yn yr un ysbryd o draddodiad sy’n tyfu a chyfoethogi.

Bron cystal â iodlwr Llanwenog yn y bws bach ar y ffordd yn ôl.

Twyllo

Wedi cael clywed am ffyrdd newydd o dwyllo wrth ddod i mewn – yn dilyn stori’r diwrnod am ffugio.

Un tric ydi siarad efo’r bobol wrth y gat a sganio tocyn plentyn. Un arall ydi mynd yn ôl ac ymlaen trwy’r gât a chasglu bandiau i’w rhannu. Ydi’r rhain yn gweithio? Dwnim.

Mawrth, 6 Awst

Mae eisio gwahardd sbectols haul oddi ar faes yr Eisteddfod.

Does dim posib nabod teulu na chydnabod o tanyn nhw. Yn waeth byth, does dim modd methu eu hadnabod chwaith.

Yr unig ffordd i ddelio efo sbectols haul ydi gwenu a nodio a deud ‘Smai’ ar bawb sy’n eu gwisgo nhw – rhag ofn eich bod yn eu nabod.

A chael eich arestio am fod yn neis.

Co-ron

Wedi cael cip ar gerddi’r Goron. Ifor ap Glyn, bron yn gofi dre bellach. Un gerdd yn mynnu aros yn y meddwl.

Cerdd am Ystrad Fflur a chymharu gweddillion grisiau troellog i gorcsgriw sy’n agor potel o hen win y gorffennol.

Syniad mentrus. Fydd pawb ddim yn ei licio ond mae’n enghraifft o wreiddioldeb Ifor ap Glyn ar ei orau.

Cerdd arall – a’r cyfan yn codi o’r ffigurau Cyfrifiad – yn sôn am ward Peblig, Caernarfon, y ward Gymreicia’ yn y byd, ac un o’r rhai tlota’ yng Nghymru, yn ôl y ffigurau swyddogol.

Dim ond yn Gymraeg y gallai honno fod – yn wahanol i’r maestrefi dosbarth canol.

Y llyfr

Lansio llyfr i ddathlu pen-blwydd Golwg yn 25 – yn Eisteddfod Casnewydd 1988 roedden ni’n rhoi copi o rifyn enghreifftiol yn rhad ac am ddim. Casgliad o ddyfyniadau o erthyglau nodwedd a cholofnau’n benna’ a’r amrywiaeth yn syndod, hyd yn oed i fi.[MSOffice1]


[MSOffice1]