Stondin y Figaniaid
Fy hoff stondin
Eleni eto mae stondin Cymdeithas y Figaniaid ar faes yr Eisteddfod – stondin sydd bob blwyddyn wedi fy nharo fel un llawn pobl gyfeillgar iawn. Ond y tro hyn, gwnes i sylwi ar ei deitl llawn sef ‘Figaniaid Gogledd Cymru’. Fel un o’r de, roedd hyn yn siom fawr, ac rwy’n disgwyl gweld stondin Cymru gyfan ar y maes blwyddyn nesaf.

Gig Cymdeithas yr Iaith Nos Lun
Gan nad yw gigs Maes B yn dechrau nes nos Fercher, mae’r nos Lun a Mawrth yn rhydd o gerddoriaeth gen i. Felly i lenwi’r bwlch, neithiwr fe es i a rhai ffrindiau i gig Georgia Ruth ac eraill yn Nhafarn y Gild yn nhref Dinbych.
Er fy mod wedi cael profiadau diddorol yn gigs Cymdeithas yn Eisteddfodau’r gorffennol – Meic Stevens yn poenydio’r dyn sain yn ganol set yn Wrecsam a’r gynulleidfa’n eistedd yng nghefn yr ystafell yn Llanilltud Fawr – roedd neithiwr yn arbennig.
Roedd y lle’n llawn dop, a’n llawn o bobl o bob oedran gan gynnwys llawer o ‘bwysigion’ y sin a wnaeth achosi rhai star-struck moments wrth i Gareth Bonello sipio’i Bulmers yn dawel y tu ôl i mi ac Iwan John yn jocian yn uchel y tu allan.
Roedd perfformiad Kizzy Crawford yn arallfydol fel yr arfer a thechneg Gareth Bonello yn gweddu’n hyfryd gyda’i alawon a oedd yn gorwedd yn llyfn uwchben sŵn ei gitâr. Roedd set Gwyneth Glyn yn un cofiadwy wrth iddi wahodd yr artistiaid eraill ar y llwyfan o dro i dro i ganu rhai o ganeuon gyda hi, ac wrth gwrs roedd Georgia Ruth yn arbennig.
Un peth oedd ychydig yn rhyfedd oedd y rhwyg rhwng y rhai oedd yn eistedd yn y blaen a’n gwrando’n astud a’r rhai o ni oedd yn sefyll ger y cefn, yn sgwrsio a gwrando ar yr un pryd. A dweud y gwir, roedd y ‘shwshio’ a ddaeth yn agos i ddiwedd y noson braidd yn ddiangen, ond gig arbennig serch hynny.