Malan Wilkinson sy’n dadlau bod Gwyliau Balchder  yn cynnig cyfle i’r gymuned gyfan ddathlu amrywiaeth…

Pa mor berthnasol yw ‘Gwyliau Balchder’ bellach? Fe ges i’n synnu’n ddiweddar pan ofynnodd rhywun wrthyf fi pam oeddwn i’n cefnogi ‘Gwyliau Balchder’.

Cwestiwn amserol o bosibl a ninnau ar drothwy Gŵyl Balchder Gogledd Cymru yn Neuadd Hendre, Bangor ar 26 a 27 Gorffennaf.

Gyda Thŷ’r Arglwyddi wedi pasio mesur a fydd yn caniatáu i gyplau o’r un rhyw yng Nghymru a Lloegr briodi o’r gwanwyn nesaf ymlaen – oes angen ‘Gwyliau Balchder’? Mae rhai yn dadlau bod cymdeithas wedi symud yn ei blaen.

Mae llawer yn y gymuned Lesbiaidd Hoyw Deurywiol a Thrawsrywiol yn cefnogi digwyddiadau o’r fath yn naturiol, ond mae gwyliau fel hyn hefyd yn cynnig cyfle i’r gymuned gyfan ddathlu amrywiaeth, mwynhau cerddoriaeth a chymdeithasu a hynny mewn awyrgylch anffurfiol.

Nid profiad ecsgliwsif yw digwyddiad o’r fath i bobl hoyw yn unig ond profiad i’r teulu cyfan – yn blant, oedolion a phensiynwyr. Mae’r awyrgylch yn ymlaciol ac anffurfiol yn ystod y dydd gyda digonedd o weithgareddau ar y maes ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae stondinau ar y maes a chyfle i unigolion wybod mwy am brosiectau a digwyddiadau lleol. Mae Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth  Cymru yn cefnogi Gŵyl Balchder Gogledd Cymru eleni.

Plant a Pride

‘Dw i wedi clywed rhai yn dweud hefyd na ddylai plant ddod i ddigwyddiadau o’r fath – awgrym rydw i’n ei herio gydag angerdd. Y brif ddadl dros gefnogi’r safbwynt yma’n aml yw teimlad bod gwyliau o’r fath yn ‘hyrwyddo’ cyfunrywioldeb. Ond nid rhywbeth i’w hyrwyddo, ei brynu a’i werthu yw rhywioldeb – mae’n beth naturiol. Does dim modd ’dal’ genynnau hoyw ar ôl edrych ar boster neu dreulio amser yng nghwmni unigolyn hoyw.

Yn ôl Adroddiad Ysgol 2009 Stonewall Cymru – mae mwy na dau o bob pum athro ysgol gynradd (44%) yn dweud fod plant yn dioddef bwlio homoffobig yn eu hysgolion. Mae’n broblem. Ond eto, nid yw naw allan o ddeg athro ysgol gynradd wedi derbyn unrhyw hyfforddiant penodol ar sut i rwystro ac ymateb i fwlio homoffobig.

Dathlu amrywiaeth

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y cyplau hoyw sy’n dewis magu plant a theulu.  Ond eto, yn ôl ymchwil Stonewall (Yr Adroddiad Ysgol 2009) nid yw llawer o athrawon ysgolion cynradd yn siarad yn gynhwysol am deuluoedd gwahanol a phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn yr ysgol. Oes ryfedd felly bod bwlio homoffobig ac iaith homoffobig yn gyffredin mewn llawer o ysgolion cynradd ac uwchradd?

Efallai y dylwn gloi drwy wyrdroi’r cwestiwn gwreiddiol – pam ddim cefnogi gwyliau o’r fath? Dod a’r teulu cyfan i fwynhau am y diwrnod? Dyma brofiad cadarnhaol all godi ymwybyddiaeth plant, ffrindiau a theuluoedd am holl amrywiaeth cymdeithas a theuluoedd gwahanol. Mewn oes lle bydd cyplau hoyw’n cael priodi cyn hir, mae mynd i’r afael â stigma a bwlio homoffobig mewn ysgolion ac ymhlith plant yn flaenoriaeth. Pa well ffordd i godi ymwybyddiaeth ac addysgu na chyflwyno plant i holl amrywiaeth naturiol cymdeithas mewn digwyddiad sy’n hwyl!