Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Ne Affrica fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.

Mae’r Traeth Ifori yn un o grwpiau anoddaf y gystadleuaeth, gyda Phortiwgal a Brasil yn gwmni iddyn nhw. A fydd gan Drogba a’i griw ddigon o dalent i gyrraedd rownd yr 16 olaf?

Y Wlad

Poblogaeth: 21 miliwn

Prif iaith: Ffrangeg

Prifddinas: Abidjan

Arweinydd: yr Arlywydd Laurent Gbagbo

Llysenw: Les Éléphants (yr Eliffantod)

Y Daith

Daeth y Traeth Ifori i frig ei grãp rhagbrofol yn weddol hawdd, gan sgorio 19 gôl ac ildio ond pedair. Enillwyd gemau o 5-0 ar ddau achlysur, yn erbyn Malawi a Burkina Faso.

Y Record

Cwpan y Byd 2010 fydd yr eildro yn olynol i’r Traeth Ifori gyrraedd y rowndiau terfynol. Yn 2006, mewn grãp hynod anodd, collwyd yn erbyn yr Ariannin a’r Iseldiroedd cyn curo Serbia 3-2 ar ôl ildio dwy gôl gyntaf y gêm.

Sêr o’r Gorffennol

Cyril Domoraud:

Domoraud oedd y chwaraewr hynaf yng ngharfan y Traeth Ifori yng Nghwpan y Byd 2006. Chwaraeodd i nifer o glybiau yn Ewrop, gan gynnwys Olympique de Marseilles ac Espanyol, gan hefyd ennill 51 o gapiau dros ei wlad.

Alain Gouaméné:

Mae’r gôl-geidwad Gouaméné yn enwog am arbed y ddeuddegfed gic mewn cystadleuaeth ciciau o’r smotyn ar ddiwedd rownd terfynol Cwpan Cenhedloedd Affrica 1992, gan sicrhau buddugoliaeth i’r Traeth Ifori am y tro cyntaf erioed yn y gystadleuaeth. Enillodd 58 o gapiau a bellach mae’n hyfforddi timau ieuenctid y Traeth Ifori.

Gwyliwch rhain

Yaya Touré:

Mae’r chwaraewr canol cae amddiffynnol, a’i frawd y cefnwr canol Kolo Touré, yn siãr o fod yn asgwrn cefn i dîm y Traeth Ifori yn 2010. Yn aelod o dîm Barcelona a gurodd Manchester United yn rownd derfynol Cwpan Ewrop yn 2009, bydd yn awyddus am fwy o lwyddiant yn Ne Affrica.

Salomon Kalou:

Yn llai enwog na’i gydwladwr Didier Drogba yn lliwiau Chelsea, bydd cyflymdra a thalentau naturiol Kalou yn bwysig i’w wlad yn Ne Affrica. Ar un adeg ceisiodd ennill ddinasyddiaeth yr Iseldiroedd, gan ei fod yn chwarae i Feynoord ar y pryd, ond yn 2007 enillodd ei gap cyntaf dros y Traeth Ifori.

Y Seren

Didier Drogba:

Go brin fod blaenwr mwy pwerus ond sgilgar yn y byd. Gall sgorio goliau gyda’i ben neu ei draed o bob sefyllfa ac mae ei record sgorio i’w glwb Chelsea a’i wlad yn wych. Nid yw’n boblogaidd gyda phawb, yn bennaf am ei dueddiad i geisio twyllo dyfarnwyr drwy ddeifio yn y cwrt cosbi. Sgoriodd chwe gôl yn y rowndiau rhagbrofol, gan gynnwys dwy yn y fuddugoliaeth o bum gôl i ddim yn erbyn Burkina Faso.