Huw Prys Jones yn holi pa gyfiawnhad sydd yna dros gael angladd mor rwysgfawr i ffigur mor ddadleol â Margaret Thatcher

Dw i’n siwr nad fi ydi’r unig un sy’n amau pa gyfiawnhad sydd dros gynnal y seremoni rwysgfawr yng Nghadeirlan St Paul’s ddydd Mercher nesaf.

Eto prin ydw i wedi clywed unrhyw wleidydd na newyddiadurwr yn gofyn cwestiynau caled ynghylch y rhesymeg y tu ôl i’r bwriad.

Oedd, roedd Thatcher yn ffigur o bwys yn hanes diweddar Prydain. Ac mae rhywun yn disgwyl i barch a chydymdeimlad gael ei ddangos – yn enwedig o gofio’i chyflwr dros y blynyddoedd diwethaf.

Dw i ddim yn meddwl y byddai ei gelynion mwyaf yn gwarafun y math o goffâd a gafodd cyn-brif weinidogion eraill fel Harold Wilson, James Callaghan a Ted Heath. Wedi’r cwbl, doedden hwythau chwaith ddim yn bobl gwbl ddi-sylw na adawodd unrhyw ddylanwad ar eu hôl. Er clod iddo, fe wnaeth Harold Wilson – a enillodd bedwar etholiad cyffredinol  – wrthsefyll pwysau Lyndon Johnson i anfon milwyr o Brydain i Vietnam. Ac roedd penderfyniad Edward Heath i fynd â Phydain i’r Undeb Ewropeaidd (fel y mae heddiw) yn ddigwyddiad hynod o arwyddocaol a phellgyrhaeddol.

Wth roi triniaeth mor wahanol i Thatcher, mae’r wladwriaeth yn troedio tir peryglus iawn. Mae’r hyn y priodolir i Thatcher ei gyflawni fel prif weinidog yn bethau hynod o ddadleuol, ac mae ymgais y sefydliad i drio creu consensws o’u cwmpas yn rhywbeth y dylid ei wrthwynebu’n ffyrnig.

Mae molawd David Cameron yn ddigon dealladwy – hyd yn oed os nad ydi o’n credu’n llawn yr hyn mae’n ei ddweud, mae’n ffordd o ennill cefnogaeth asgell dde ei blaid. Ond fyddai Cameron ar ei ben ei hun fyth wedi gallu cyfiawnhau’r fath angladd led-wladol drudfawr oni bai bod ganddo gefnogaeth y pleidiau eraill (neu o leiaf ormod o lwfrdra i’w wrthwynebu).

Ac mae’r BBC fel petai wedi dyrchafu Thatcher i aelodaeth o’r teulu brenhinol – gyda’r arch-ymgreiniwr hwnnw, y gohebydd brenhinol Nicholas Witchell, yn hytrach na’r gohebwyr gwleidyddol bellach yn ymdrin â’i hanes.

Mae’r arian sy’n cael ei wario ym Mhrydain ‘we’re all in this together’ George Osborne yn ddigon drwg. Ond yr hyn sy’n llawer, llawer gwaeth ydi natur filitaraidd yr holl weithgareddau.

Mae’n ymddangos y bydd yr angladd yn cael ei ddefnyddio gan y sefydliad fel cyfle i ail-ddathlu rhyfel ynysoedd y Falkland. Nid dangos parch tuag at yr ymadawedig ydi hynny ond ymhyfrydu mewn lladd a dinistrio. Pan ddaw ei dro yntau, a fydd Tony Blair yn cael yr un driniaeth am ei ran yn rhyfel Iraq tybed?

Ac wrth sôn am dawedogrwydd y gwleidyddion, oni ellid disgwyl y byddai gan arweinydd Plaid Cymru rywbeth i’w ddweud yn erbyn y fath ddathliad o ryfelgarwch?

Mae rhywun yn ei chofio’n gwneud safiad yn erbyn ymweliad y Frenhines â’r Cynulliad dro’n ôl. Mi fyddai rhywun yn disgwyl bod y propaganda cywilyddus yr wythnos nesaf yn achos llawer pwysicach – a mwy poblogaidd hefyd – i godi llais yn ei erbyn. Mi dybiwn i y byddai llawer o bobl y Rhondda sy’n wynebu toriadau yn eu budd-daliadau’n croesawu clywed rhywun a fyddai’n codi llais yn erbyn y ffordd y mae’r sefydliad yn rhwbio’u trwynau yn y baw.

*      *      *

Elfen arall sy’n amlygu ei hun dros y dyddiau diwethaf ydi’r tueddiad i orbwysleisio dylanwad Thatcher.

Ydan ni o ddifri’n credu y byddai cymoedd y de’n dal i fod wedi eu britho â phyllau glo a gweithfeydd dur, a phobl yn dal i brynu ceir sâl British Leyland a bodloni ar undebau’n streicio byth a hefyd petai Thatcher erioed wedi cael ei geni? Roedd yn anochel y byddai sawl agwedd ar Brydain yr 1960au a’r 1970au yn dod i ben.

Doedd dim byd neilltuol o wreiddiol yn y polisïau economaidd yr oedd yn ei harddel ychwaith – yn hytrach polisïau prif ffrwd eiriolwyr y fasnach rydd ledled y byd oedden nhw.

Mae’n werth nodi hefyd iddi fod yn gymharol realistig yn ystod y rhan fwyaf o’i theyrnasiad o ba mor bell y gallai hi wthio Prydain i’r dde. Wnaeth hi erioed unrhyw ymgais i drio adfer y gosb eithaf, er enghraifft, er ei bod hi o blaid hynny, ac roedd y cyfoethogion yn talu 60% o dreth incwm ar eu henillion uchaf y rhan fwyaf o’i theyrnasiad.

A lle’r oedd streic y glowyr yn y cwestiwn nid ei bai hi oedd fod Arthur Scargill wedi bod yn ddigon o idiot i syrthio i’r trap yr oedd hi’n amlwg wedi’i drefnu ar ei gyfer.

Nid achub ei cham ydi dweud hyn ond nodi’r gwir amlwg fod y chwith wedi ‘colli’r plot’ yn llwyr yn eu hymdriniaeth â hi. Mae’n sicr fod ffordd y gwnaeth y chwith y fath fwgan ohoni fel symbol o holl ddrygioni cymdeithas wedi cyfrannu at greu’r cwlt personoliaeth o’i chwmpas.

Wrth gwrs, mi wnaeth hynny arwain yn ei dro at yr eilun addoliaeth ohoni ymysg ei chefnogwyr a’i harwain  i gredu y gallai hi wneud fel y mynnai.

Ond wrth ganolbwyntio’n ormodol ar ei pholisïau economaidd a chymdeithasol, camwedd mwyaf y chwith oedd tynnu sylw oddi wrth yr hyn oedd fwyaf annymunol ac atgas yn Thatcher – sef ei rhyfelgarwch.

Cwbl anfaddeuol oedd ei chrochlefain ffiaidd ‘rejoice at the news’ pan oedd hogiau ifanc o Gymru’n cael eu llosgi’n fyw ar fyrddau’r Tristan a’r Sir Galahad. Dyma’n wir oedd ymgnawdoliad o’r ddelwedd erchyll a ddarlunir yn Llyfr y Datguddiad am y Butain Fawr yn feddw ar waed merthyron.

A doedd o ddim mymryn o ddiolch iddi hi na Ronald Reagan nad aeth pethau’n flêr yn ystod y Rhyfel Oer fel y gall yn hawdd ddigwydd ar hyn o bryd yng Ngogledd Korea.

Rhai o’r pethau y bydd yn werth inni eu cadw mewn cof yng nghanol yr holl ymgreinio a’r eilun addoli a’r jingoistiaeth ddydd Mercher.