Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Ne Affrica fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.

Dyma ganllaw i un o’r timau fydd yn gobeithio maeddu Lloegr yn Grŵp C – Unol Daleithiau America.

Y Wlad

Poblogaeth: 299 miliwn

Prif iaith: Saesneg

Prifddinas: Washington D C

Arweinydd:  Yr Arlywydd BaracK Obama

Llysenw: The Yanks

Yr Hyfforddwr

Bob Bradley

Penodwyd Bradley, sy’n enedigol o New Jersey, yn hyfforddwyr ar ei wlad wedi perfformiad siomedig yr UDA yng Nghwpan y Byd 2006. Ceisiwyd denu Jürgen Klinsmann i’r swydd ond gwrthododd yr Almaenwr y cyfle. Mae Bradley wedi ceisio datblygu chwaraewyr ifanc newydd, gan gynnwys ei fab ei hun, Michael Bradley, a’r blaenwr talentog Jozy Altidore.

Y Daith

Gan ennill chwech o’i deg gêm, llwyddodd yr UDA ddod ar frig grãp CONCAF. Y fuddugoliaeth bwysicaf oedd yr un cyntaf, yn erbyn Mecsico yn Columbus, Ohio, gyda mab y rheolwr, Michael Bradley yn sgorio ddwywaith.

Y Record

Gan nad yw ‘soccer’ (y term a ddefnyddir yn yr UDA yn hytrach na ‘football’ ) yn un o brif gampau’r wlad, mae’n syndod deall i’r UDA gystadlu yn y Cwpan y Byd cyntaf yn 1930. Yn wir enillwyd gemau yn erbyn Gwlad Belg a Paraguay cyn colli 6-1 i’r Ariannin. Yn 1950, yn un o ganlyniadau mwyaf annisgwyl erioed yn y gystadleuaeth, curwyd Lloegr 1-0 gan dîm rhan-amser yr UDA. Rhaid oedd aros hyd 1990 i weld yr UDA yn y rowndiau terfynol unwaith eto. Yn 1994 cynhaliwyd y gystadleuaeth yn yr UDA pryd y llwyddwyd i gyrraedd yr ail rownd cyn colli i Brasil 1-0. Yn 2002 collwyd i’r Almaen, hefyd yn yr ail rownd.

Sêr o’r Gorffennol

Cobi Jones:

Enillodd Jones 164 o gapiau rhwng 1992 a 2004 – record i’w wlad – gan hefyd chwarae i glybiau Coventry City yn Uwchgynghrair Lloegr a Vasco da Gama yn Brasil.

Kasey Keller:

Enillodd Keller mwy o gapiau (102) na’r un gôl-geidwad arall i’r UDA, er iddo gystadlu am y safle yn erbyn Tony Meola a Brad Friedel rhwng 1990 a 2007. Ei berfformiad enwocaf oedd yn erbyn Brasil mewn gêm gyfeillgar yn 1998. Llwyddodd Keller i gadw Romario a’i griw rhag sgorio, gyda rhes o arbediadau gwych, ac enillodd yr UDA 1-0. Chwaraeodd i glybiau Millwall, Leicester, Tottenham a Fulham yn Lloegr.

Brian McBride:

Sgoriodd 30 gôl i’w wlad rhwng 1993 a 2006, gan gynnwys y goliau a sicrhaodd buddugoliaethau clodwiw yn erbyn Portiwgal a Mecsico yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2002. Yn ogystal, sgoriodd ddeugain gôl i Fulham rhwng 2004 a 2008.

Gwyliwch Rhain

Jozy Altidore:

Bydd llawer o obeithion yr UDA yn disgyn ar ysgwyddau ifanc ond llydan Altidore. Yn ugain mlwydd oed yn unig, mae’r blaenwr chwim eisoes wedi sgorio wyth gôl dros ei wlad. Mae ar hyn o bryd ar fenthyg i Hull City a sgoriodd ei gôl gyntaf yn Uwchgynghrair Lloegr yn Chwefror 2010 yn y fuddugoliaeth yn erbyn Manchester City.

Tim Howard:

Mae gôl-geidwad diogel yn hanfodol i bob tîm llwyddiannus, ac nid oes fawr neb yn fwy dibynadwy na Howard yn y safle. Ar ôl cyfnod gyda Manchester United, mae wedi chwarae dros gant o gemau i Everton ers ei drosglwyddiad yn 2007. Bydd yn gobeithio ennill ei hanner canfed cap yn 2010.

Y Seren

Landon Donovan:

Enwebwyd Donovan yn chwaraewr ifanc gorau cystadleuaeth Cwpan y Byd 2002 ac erbyn hyn mae wedi ennill dros 120 o gapiau a chael ei benodi’n gapten ar ei wlad. Mae’r asgellwr yn chwarae i LA Galaxy ond cafodd gyfnod gydag Everton ddechrau 2010. Sgoriodd bum gôl yn rowndiau rhagbrofol 2010.