Sam Warburton
Owain Gwynedd sy’n bwrw golwg nol ar fuddugoliaeth Cymru yn erbyn yr Alban…

Diolch yn fawr iawn i’r Eidal am wneud ffafr a Chymru.

Y Bencampwriaeth

Os fydd Cymru’n curo Lloegr ddydd Sadwrn o saith pwynt fe fydd y ddwy wlad wedi ennill pedair a cholli un, a bydd y gwahaniaeth pwyntiau yn gyfartal. Os felly, fe fydd pencampwr y Chwe Gwlad 2013 yn cael eu penderfynu ar sail sawl cais sydd wedi cael eu sgorio.

Ar hyn o bryd mae Cymru wedi sgorio saith cais a Lloegr pump. Felly, fe fydd ennill y gêm o saith pwynt a pheidio gadael i Lloegr sgorio dau gais yn fwy na Chymru ar y diwrnod yn golygu bydd y Cochion yn Bencampwyr.

Cymru v Yr Alban

Unwaith eto doedd Cymru ymhell o fod ar eu gorau, ac mae rhywun yn teimlo bod y tîm yn gallu cynnig gymaint yn fwy, ond pwy sy’n poeni os ydyn nhw’n ennill? A hynny am y pumed gêm oddi cartref yn olynol a’r wythfed tro o’r naw ddiwethaf yn y Bencampwriaeth.

Mi oedd yr amddiffyn yn gadarn eto a tydi Cymru heb ildio cais ers yr hanner gyntaf yn erbyn y Gwyddelod.

Roedd y sgrym yn gryf ac yn gadarn ac ambell waith yn arwain at giciau cosb a phwyntiau.

Os oedd y blaenwyr wedi plesio yn yr elfen honno dros y ddwy gêm ddiwethaf yn sicr roedden nhw wedi plesio yn y chwarae agored trwy rycio’n gryf a gosod eu stamp corfforol ar y gêm. Hynny yn arwain at lwyfan cadarn i reoli pethau.

Mae’n rhaid rhoi clod enfawr i Sam Warburton am gael ei enwi yn ‘Seren y Gêm’ ac Alun Wyn-Jones am wneud argraff sylweddol. Fe wnes i alw am i’r ddau i gael eu cynnwys ac, am unwaith, dwi’n falch fy mod i wedi cael fy mhrofi’n iawn ar ôl cael fy mhrofi’n anghywir ambell waith yn ystod y gystadleuaeth.

Mae’n benderfyniad anodd i newid tîm sydd yn ennill ond fe wnaeth Rob Howley y penderfyniad dewr yna, efallai ar ôl darllen fy mlog – ond dwi’m yn meddwl rhywsut.

Ar y llaw arall mae’n rhaid gwella’r ddisgyblaeth a dwi’n siŵr fysa Shaun Edwards yn tynnu ei wallt allan petai ganddo rywfaint.

Dwi’m yn deall pam bod pawb yn rhoi’r bai ar y dyfarnwr, Craig Joubert, am ddifetha’r gêm. Y chwaraewr oedd yn troseddu ac felly mae’n rhaid derbyn y gosb. Yr unig fai ar Joubert oedd ei fod o heb roi sawl cerdyn melyn i’r ddau dîm ynghynt. Efallai fysa llif yr holl gêm wedi bod yn wahanol ac wedi effeithio Cymru yn waeth na’r Albanwyr.

Mae’r tîm wedi gwella ar nifer o elfennau yn ystod y bencampwriaeth a heb os mi fydd rhaid gwella’r ddisgyblaeth yn sylweddol.

A sôn am wella, mae rhywun yn gobeithio bod Ryan Jones heb ei anafu’n rhy ddrwg ac y bydd wedi gwella erbyn dydd Sadwrn. Mae o wedi chwarae ac arwain y garfan yn wych ac yn sicr am ddechrau yn erbyn Lloegr os yn holliach.