Ein blogiwr Owain Gwynedd sy’n pwyso a mesur cyfle’r bois o ddal eu gafael ar Bencampwriaeth y Chwe Gwlad…

Does fawr i fynd nes bod Cymru am geisio cymryd yr ail gam i fod yn dîm o werth ac efallai yn y pendraw i gadw gafael ar bencampwriaeth y Chwe Gwald.

Tydi chwarae oddi cartref yn yr Eidal bell o fod yn hawdd. Mae canlyniad y Ffrancwyr yno yn atgof diweddar o hynny.

Cyfuno’r canlyniad yna gyda chanlyniadau Cymru yn Yr Eidal ers y flwyddyn 2000, y flwyddyn gafodd yr Azzurri i dderbyn i chwarae yn y Chwe Gwlad, mae’r gêm hon yn argoeli i fod yn un anodd.

Yn y gorffennol efallai fysa Cymru wedi meddwl cylchdroi’r garfan fel bod pawb yn cael amser ar y cae a chadw’r sêr mawr yn ddiogel a ffres at y gemau pwysig. Erbyn hyn tydi hynny ddim yn opsiwn.

Y boen o golli

Dim ond angen atgoffa ein huna’n o’r boen o golli yn y Stadio Flaminio, Rhufain yn 2003 (30 v 22) a 2007 (23 v 20) a hefyd y gêm gyfartal yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006 (18 v 18), sydd ei angen i weld tydi record Cymru ddim yn wych – chwarae chwech a cholli dwy oddi cartref.

Gall rhywun ddadlau bod Cymru wedi dysgu ei gwers ers y golled yn 2007 gan ei bod wedi ennill pob gem ers hynny.

Treviso wedi taro deuddeg

Ar y llaw arall mae clybiau Yr Eidal… wel, Treviso beth bynnag, wedi cryfhau ers ymuno a’r Pro 12 ac yn arwydd bod rygbi yn Yr Eidal yn cryfhau ar y lefel honno. Yn debyg i’r tîm rhyngwladol, mae Treviso wedi bod yn anodd iawn i’w curo yn yr Eidal. Mae’r Gweilch, Scarlets a’r Dreigiau wedi colli mewn gemau Pro 12 yn y Stadio Comunale di Monigo y tymor yma. Pan oedd y pwysau ar y Gweilch i ennill yno yn y Cwpan Heineken, colli oedd yr hanes. Mae yna bwysau dal i fod ar y crysau cochion i ennill y tro yma.

Er yr hwb mewn hyder o bythefnos yn ôl, fe fydd angen i Gymru fod yn wyliadwrus ac ar eu gora os maen nhw am ennill.

Absenoldeb Parisse o’n plaid ni

Un peth sydd o’u plaid ydi absenoldeb y capten Sergio Parisse, sydd wedi ei wahardd ar ôl sarhau’r dyfarnwr wrth gynrychioli ei glwb Stade Francais penwythnos ddiwethaf. I mi, fe yw’r wythwr gora yn y byd.

Dwi’n falch bod Parisse wedi ei wahardd. Fydd Yr Eidal wedi ei gwanhau a hefyd oherwydd y pla sy’n lledaenu trwy’r gêm o rygbi lle mae chwaraewyr ar bob lefel, ynghyd ar dorf, yn meddwl bod nhw’n cael cwestiynnu a dadlau â phenderfyniadau’r dyfarnwr.

Dim parch i’r dyfarnwr

Pell yn ôl yw’r dyddiau lle’r oedd chwaraewr a ffans rygbi yn gallu dweud bod nhw’n well na’u cymdogion pêl-droed oherwydd y parch sydd yn cael ei ddangos tuag at y dyfarnwr. Hen bryd bod rhywbeth yn cael ei wneud am y peth a bod esiampl wedi ei osod i bawb.

Chwalu’r Eidal

Nol at y peth pwysig, y gêm brawf, pwy sydd am ennill?

Dw i wedi dysgu fy ngwers ac i beidio gwrando ar yr ymennydd twp yna sydd gen i – yr un wnaeth ddeud bod Ffrainc am guro Cymru. Ddylwn i o hyd gwrando ar fy nghalon ac felly mae Cymru am chwalu’r Eidal…. gobeithio!!