Sam Warburton - fo ddylai fod yn y crys coch
Tydi colli gêm o rygbi byth hawdd. Yr holl ymarfer, paratoi, ymdrech, chwys, cleisiau ac anafiadau ac ar y diwedd be sydd i’w ddangos? Dim.

Dw I’n methu dychmygu pa mor anodd ydi colli wyth gêm yn olynol. Y tensiwn a’r pwysau mewnol naturiol o fod eisiau ennill heb sôn am orfod darllen a gwrando ar y cyfryngau yn pwyntio bys tuag at unigolion am beidio perfformio.

Heb os roedd curo’r Ffrancwyr a dod ac un o rediadau gwaethaf y tîm rhyngwladol i ben, yn rhyddhad anferthol a hwb i hyder ac ysbryd carfan Cymru. Rhywbeth fyswn i’n dychmygu oedd pob unigolyn, dim ots be oedd ei swydd gyda’r garfan, ei angen. Yn enwedig Rob Howley.

Rhaid cymeradwyo Howley, wrth enwi’r tîm i wynebu’r Eidal yn gynnar, am roi hwb ychwanegol i’r pymtheg a gychwynnodd yn erbyn Ffrainc. Gall rhywun ddychmygu’r pymtheg yna yn ymarfer gyda gwên o glust i glust am yr wythnos ddiwethaf ac yn barod i wneud popeth yn eu gallu ei ad-dalu’r ffydd sydd wedi ei ddangos ynddyn nhw.

Yn ychwanegol, mae enwi’r garfan yn fuan wedi atal y cyfryngau rhag dadlau a darogan pwy ddyle chwarae a pham. Yn naturiol mae’r chwaraewyr am weld y penawdau ac oherwydd hynny efallai am deimlo pwysau ychwanegol – megis Sam Warburton.

Warburton v Tipuric

Gan fod Warburton yn holliach ar gyfer y penwythnos, mi fyswn i wedi ei ddewis cyn Justin Tipuric.

Dw i’n gallu clywed pawb yn sgrechian bod Tipuric yn haeddu cadw’i le. Yndi, mae o wedi chwarae yn dda, a dw i wedi dweud yn y gorffennol ei fod o am chwarae rhan fawr yn ymgyrch y Cochion i ennill y Chwe Gwlad ond Warburton ydi capten Cymru ac, i fi, mae’n dal i fod yn well chwaraewr.

Mae yna ddau reswm pam bod Warburton o dan bwysau am ei safle. Y cyntaf ydi’r gystadleuaeth gan Tipuric a’r ail ydi’r safon anhygoel y mae Warburton wedi ei gosod yn y gorffennol, safon nad ydi o ddim wedi ei chyrraedd yn ddiweddar. Tydi peidio cyrraedd y safon yna ddim yn golygu ei fod o’n chwarae yn wael.

  • Sawl tacl mae o wedi ei methu? Dim un o be dwi’n cofio.
  • Sawl gwaith yn fwy mae Tipuric wedi cipio’r bêl yn ardal y dacl na Warburton yn y Chwe Gwlad? Dim.
  • Ydi o wedi cario’r bêl yn dda? Naddo, ond ddim dyna ydi ei swydd a tydi Tipuric, heblaw am ambell i rediad mewn ail hanner agored yn erbyn Iwerddon, heb wneud chwaith.
  • Ydi gore Warburton yn well na gore Tipuric? Mae hanes yn dangos ei fod.

Felly i mi mae Warburton, ar ôl nifer o anafiadau, angen rhediad o gêmau er mwyn cyrraedd yr uchelfannau unwaith eto.

Yn union fel mae Alun Wyn-Jones angen ar ôl ei anaf yntau.

Alun Wyn v Coombs

Os ydi Cymru am ennill y Chwe Gwlad mae Cymru angen ei chwaraewyr gore ar y cae a hefyd yn chwarae ar eu gore. Yn enwedig efo’r angen i guro Lloegr, sydd llawn hyder, yng  ggêm olaf o’r bencampwriaeth.

Fel Warburton, mae Alun Wyn angen amser ar y cae er mwyn codi ei ffitrwydd i’r lefel rhyngwladol a hefyd i ddarganfod y safon y mae o’n gallu ei chyrraedd.

Mae Andrew Coombs wedi gwneud llawer gwell nag oedd unrhywun yn ei ddisgwyl ac mae’n ddewis anodd gorfod ei adael allan o’r tîm. Ond Alun Wyn ydi’r ail reng gore yn y wlad a hynny ers sawl tymor. Mae rhaid rhoi pob cyfle iddo fo fod yn barod at gêm Lloegr, i fi, mi fyddai hynny wedi golygu dechrau cyn Coombs ddydd Sadwrn.