Ryan Kift
Mae ffilm gynta’ Ryan ‘kinky’ Kift yn ymdrech dda, yn ôl un a fu’n ei gweld ym Mhrifysgol Bangor neithiwr, lle’r oedd hi’n cael ei dangos gan griw’r prosiect Pontio…

Mae hanes creu’r ffilm Zombies from Ireland yn haeddu rhaglen ddogfen awr y hyd ynddi ei hun.

Fe lwyddodd Ryan Kify i ddenu’r holl actorion i gymryd rhan yn ei ffilm trwy ei dudalen facebook, a chael pawb ar y set i weithio am ddim.

Seren y sioe ar y sgrîn yw ei gariad, Siân Davies. Ei golygfa gora’ yw pan mae hi’n sylweddoli ei bod yn troi’n zombie – un o’r meirw byw – tra’n edrych ar ei hwyneb mewn drych car.

Mae ei sgrechfeydd wrth iddi fyseddu ei boch a phlicio’r croen oddi ar ei hwyneb, yn ddigon i godi blew eich pen. Iasoer.

Troi’n zombie!

Fedar rywun ddim peidio ond meddwl: ‘Mae troi’n zombie yn brofiad reit annifyr ar y cyfan’.

Ond mae seren arall i gael hefyd, sef yr hogan golur, Anwen Peters.

Mae hon wedi cyflawni gwyrthiau trwy gymysgu iau mochyn o Morrisons Bangor Uchaf gyda gwaed ffug i greu cnawd coch credadwy.

Mewn un olygfa gofiadwy yn y goedwig ger traeth Llanddwyn, mae zombie yn ymosod ar Penny Davies (mam y brif actores) ac yn cnoi ei bol nes bod ei thu mewn ‘ar y tu allan’, fel petae.

Dyma’r math o ‘zom-com’ mae Ryan Kift wedi creu – cyfle i chwerthin yn iach ar ddigwyddiadau afiach.

Ôl-fflachiadau

Ni fydd neb sy’n gyfarwydd â rhai o ganeuon Kifty – ‘Porn Cinema’ ac ‘Interview With a Porn Star’ – yn synnu o glywed fod y cyfarwyddwr hefyd yn defnyddio’r ffilm yn blatfform i wyntyllu ei ochr kinky.

Mewn cyfres o ôl-fflachiadau fe welwn ei gariad Siân Davies yn dawnsio mewn nics a bra, yn pleseru un o angylion uffern ac yn sefyll yn hanner noeth dan raeadr.

Ond yr olygfa orau o ddigon, mewn ffilm sy’n cymryd ei hamser i gynhesu i fyny (sy’n ddigon teg – dyma ydy ffilm gynta’ Ryan Kift wedi’r cwbwl, ac mae’n naturiol ei fod yn cymryd ei amser i ffeindio’i draed ar ddechrau’r ffilmio.

Fel mae’n dweud ei hun mewn cyfweliad gwych, gonest a doniol ar ddiwedd y rhaglen: “Fues i erioed i film school!”) …ond ia, yr olygfa orau o ddigon ydy’r un olaf.

Y diweddglo

Diweddglo’r ffilm, wedi i’r zombies Gwyddelig reibio drwy Ynys Môn fel pla o locustiaid, ydy eu dangos nhw’n anelu am y tir mawr ac yn croesi Bont Borth.

Mae’r hanes tu ôl i ffilmio’r olygfa hon yn crisialu’n berffaith holl ethos y prosiect.

Fe roddodd Ryan Kift wahoddiad facebook i unrhyw un oedd eisiau, i droi fyny ym maes parcio siop posh Waitrose am dri ar fore Sul.

Yr unig amod oedd eu bod wedi gwysgo fel zombies, ac yn fodlon actio’r fyddin farw yn croesi am y tir mawr.

Byddin o gant

Bron i Kift golli deigryn, a hynny am y tro cyntaf ers 15 mlynedd, pan welodd bod dros gant wedi troi fyny yn y maes parcio ar gyfer y ffilmio.

Ac mae’r olygfa olaf yma, y fyddin zombie yn croesi’r bont wrth iddi wawrio, yn hollol, hollol wych.

Da iawn pawb, llongyfarchiadau x