Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Ne Affrica fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.

Dyma ganllaw i un o dimau mwyaf dirgel y bencampwriaeth eleni – Gogledd Korea.


Y Wlad

Poblogaeth: 23 miliwn

Prif iaith: Corëeg

Prifddinas: P’yŏngyang

Arweinydd: yr Arweinydd Goruchaf Kim Jong-Il

Llysenw: Chollima (ceffyl chwedlonol)

Yr Hyfforddwr

Kim Jong-Hun

Mae llawer o’r clod am lwyddiant diweddar Gogledd Corea, yn arbennig yn cyrraedd y rowndiau terfynol, yn ddyledus i dactegau amddiffynnol yr hyfforddwr. Ildiwyd pum gôl yn unig yn y rowndiau rhagbrofol.

Y Daith

Prin oedd y goliau a sgoriwyd gan y tîm yn Grŵp B Asia ond roedd yr amddiffyn yn gadarn, yn arbennig felly pan oedd angen pwynt oddi cartref yn Saudi Arabia. O flaen torf o 65,000 yn Riyadh, llwyddwyd i wrthsefyll holl ymosodiadau’r Arabiaid a sicrhau gêm gyfartal 0-0.

Y Record

2010 fydd yr ail dro i Ogledd Corea gyrraedd y rowndiau terfynol. Yn Lloegr yn 1966 cyfareddwyd y torfeydd gan frwdfrydedd chwaraewyr Gogledd Corea wrth iddyn nhw lwyddo i gyrraedd y rownd gogynderfynol. Ar y ffordd, curwyd un o’r gwledydd pêl-droed cryfaf y byd, yr Eidal, o 1-0, ac yn y rownd gogynderfynol roedd Gogledd Corea ar y blaen o 3-0 cyn i Portiwgal, dan arweiniad yr anfarwol Eusebio, sgorio pump.

Sêr o’r Gorffennol

Pak Doo Ik

Anfarwolodd hwn ei hun drwy sgorio unig gôl y gêm yn erbyn yr Eidal yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd 1966. Yn filwr ym myddin Gogledd Corea ar y pryd, dyrchafwyd ef yn sarjant wedi’r gystadleuaeth!

Gwyliwch Rhain

Jong Tae-Se:

Yn sgoriwr cyson dros Gogledd Corea, ganed Jong Tae-Se yn Siapan ond daw o dras Coreaidd. Penderfynodd gynrychioli Gogledd Corea ar ôl gweld y wlad honno yn chwarae gêm yn erbyn Siapan. Mae’n chwarae i Kawasaki Frontale ar hyn o bryd, efallai gan ei fod ag injan dda ar y maes!

Ri Myong-Guk:

Perfformiadau’r gôl-geidwad 23 mlwydd oed yw un o’r prif resymau dros lwyddiant Gogledd Corea yn y rowndiau rhagbrofol. Bydd yn siwr o gael ei brofi yn Ne Affrica wrth iddo geisio atal taranfolltau Kaka, Drogba a Ronaldo.

Y Seren

Hong Yong-Jo:

Yn un o’r pêl-droedwyr prin o Ogledd Corea sy’n chwarae y tu allan i’r wlad, mae’r blaenwr ar hyn o bryd ar lyfrau F C Rostov yn Rwsia. Yn gapten ysbrydoledig ar ei wlad, sgoriodd o’r smotyn yn y gêm allweddol yn erbyn De Corea yn y rowndiau rhagbrofol.