Gwobrau’r Selar – yr enillwyr a’r perfformwyr

19 Chwefror 2017

Y Bandana'n cipio pedair gwobr

Cipiodd y band o Gaernarfon, a ddaeth i ben ddiwedd y llynedd, bedair gwobr – Band Gorau, y Record Hir Orau (Fel Tôn Gron), y Gwaith Celf Gorau (Fel Tôn Gron) a’r Gân Orau (Cyn i’r Lle Ma Gau).

Daeth y band o Gaernarfon i ben yn 2016

Ffracas: Y Band Newydd Gorau a Record Fer Orau

Talp helaeth o’r dorf o 1000 o bobl yn mwynhau set Cowbois Rhos Botwnnog

Roedd gwobr arbennig i Geraint Jarman ar y noson i ddathlu ei yrfa a’i gyfraniad i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg

Roedd Candelas ymhlith y perfformwyr yn Aberystwyth, a chafodd Osian Williams ei enwi’n Offerynnwr Gorau ar y noson

CaStLeS – band newydd sy’n cael cefnogaeth Gorwelion

Roedd dwy wobr i Yws Gwynedd – Fideo Cerddoriaeth Gorau (Sgrîn) ac Artist Unigol Gorau

Oes ganddoch chi lun y dydd i ni? Gyrrwch eich lluniau at gol@golwg.com gan nodi Llun y Dydd yn y blwch pwnc.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn