Polisi Preifatrwydd

Mae Golwg Newydd Cyfyngedig (“Ni”) yn ymrwymo i amddiffyn a pharchu eich preifatrwydd.

Mae’r polisi hwn (ynghyd â’n telerau defnyddio ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt) yn nodi’r sail y caiff unrhyw ddata personol yr ydym yn ei gasglu gennych chi, neu yr ydych yn ei ddarparu i ni, ei brosesu gennym ni. Darllenwch y canlynol yn ofalus er mwyn deall ein barn a’n harferion yn ymwneud â’ch data personol a’r ffordd y byddwn yn ei drin.

Noder nad yw’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r tudalennau ar ein safle a ddarperir gan ein partneriaid.

At ddiben Deddf Diogelu Data 1998 (y Ddeddf), y rheolwr data yw Golwg Newydd Cyfyngedig o Unedau 9, 10, 11 Parc Menter Llambed, Ffordd Tregaron, Llanbedr Pont Steffan SA48 8LT.

Gwybodaeth y gallwn ei chasglu gennych chi

Efallai y byddwn yn casglu ac yn prosesu’r data canlynol yn ymwneud â chi:

  • Gwybodaeth yr ydych yn ei darparu trwy lenwi ffurflenni ar ein safle www.golwg360.cymru (ein safle). Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir ar adeg cofrestru i ddefnyddio ein safle, tanysgrifio i’n gwasanaeth, postio deunydd neu ofyn am wasanaethau pellach. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi am wybodaeth pan fyddwch yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth neu hyrwyddiad a noddir gennym ni, a phan fyddwch yn hysbysu ynghylch problem gyda’n safle.
  • Os byddwch yn cysylltu â ni, efallai y byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth honno.
  • Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi gwblhau arolygon yr ydym yn eu defnyddio at ddibenion ymchwil, er nad oes rhaid i chi ymateb iddynt.
  • Manylion eich ymweliadau â’n safle yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, ddata traffig, data lleoliad, blogiau a data cyfathrebu arall a’r adnoddau yr ydych yn cael mynediad iddynt.
  • Gwybodaeth y mae trydydd partïon yn ei chyfeirio atom o dan gynlluniau cysylltiedig

Cyfeiriadau IP a chwcis

Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, yn cynnwys eich cyfeiriad IP lle bo ar gael, system weithredu a math o borwr, ar gyfer gweinyddu system ac i adrodd am wybodaeth gyfun i’n hysbysebwyr. Data ystadegol yw hwn am weithredoedd a phatrymau pori ein defnyddwyr, ac nid yw’n enwi unrhyw unigolyn.

Am yr un rheswm, efallai y byddwn yn cael gwybodaeth am eich defnydd cyffredinol o’r rhyngrwyd gan ddefnyddio ffeil cwci sydd wedi ei storio ar yriant caled eich cyfrifiadur. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo i yriant caled eich cyfrifiadur. Maent yn ein helpu i wella ein safle a chyflwyno gwasanaeth gwell a mwy personol. Maent yn ein galluogi i:

  • Amcangyfrif maint a phatrymau defnyddio ein cynulleidfa.
  • Cadw gwybodaeth am eich hoffterau, ac felly ein galluogi ni i deilwra ein safle yn unol â’ch diddordebau unigol.
  • Cyflymu eich chwiliadau.
  • Eich adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i’n safle.

Efallai y byddwch yn gwrthod derbyn cwcis trwy weithredu’r gosodiad ar eich porwr sy’n eich galluogi i wrthod gosodiad cwcis. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis y gosodiad hwn, efallai na fyddwch yn gallu cael mynediad i rannau penodol o’n safle. Oni bai eich bod wedi addasu gosodiad eich porwr fel ei fod yn gwrthod cwcis, bydd ein system yn creu cwcis pan fyddwch yn mewngofnodi ar ein safle.

Noder y gall ein hysbysebwyr ddefnyddio cwcis hefyd, ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros hyn.

Ble yr ydym yn storio eich data personol

Mae’r holl wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni yn cael ei storio ar ein gweinyddion diogel. Os ydym wedi rhoi (neu yr ydych wedi dewis) cyfrinair sy’n eich galluogi i gael mynediad i rannau penodol o’n safle, rydych yn gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Rydym yn gofyn i chi beidio rhannu cyfrinair ag unrhyw un.

Byddwn yn cymryd yr holl gamau sy’n rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod eich data’n cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn sicrhau diogelwch eich data a drosglwyddir i’n safle; rydych yn ei drosglwyddo ar eich menter eich hun. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch llym i geisio atal mynediad heb awdurdod.

Defnydd a wneir o’r wybodaeth

Rydym yn defnyddio gwybodaeth sy’n cael ei chadw amdanoch chi yn y ffyrdd canlynol:

  • Er mwyn sicrhau bod cynnwys o’n safle’n cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi a’ch cyfrifiadur.
  • Er mwyn rhoi gwybodaeth, cynnyrch neu wasanaethau yr ydych yn gofyn amdanynt neu y teimlwn y gallent fod o ddiddordeb i chi, lle’r ydych wedi cytuno i ni gysylltu â chi at ddibenion o’r fath.
  • Er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau sy’n deillio o unrhyw gontractau rhyngoch chi a ni.
  • Er mwyn eich galluogi chi i gymryd rhan yn nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaeth pan fyddwch yn dewis gwneud hynny.
  • Er mwyn eich hysbysu chi ynghylch newidiadau i’n gwasanaeth.
  • Er mwyn gweinyddu ein safle.

Os nad ydych eisiau i ni ddefnyddio eich data yn y ffordd hon, neu i drosglwyddo eich manylion i drydydd partïon at ddibenion marchnata, ticiwch y blwch perthnasol ar y ffurflen yr ydym yn ei defnyddio i gasglu eich data (y ffurflen gofrestru).

Nid ydym yn datgelu gwybodaeth am unigolion y gellir eu hadnabod i’n hysbysebwyr, ond efallai y byddwn yn rhoi gwybodaeth gyfun am ein defnyddwyr iddynt (er enghraifft, efallai y byddwn yn eu hysbysu bod 500 o ddynion o dan 30 oed wedi clicio ar eu hysbyseb ar ddiwrnod penodol). Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio gwybodaeth gyfun o’r fath i helpu hysbysebwyr i gyrraedd y math o gynulleidfa y maent eisiau ei thargedu (er enghraifft menywod yng Nghaerdydd). Efallai y byddwn yn defnyddio’r data personol yr ydym wedi ei chasglu gennych chi i’n galluogi ni i gydymffurfio â dymuniadau ein hysbysebwyr trwy ddangos eu hysbyseb i’r gynulleidfa darged honno.

Datgelu eich gwybodaeth

Efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw aelod o’n grŵp, sy’n golygu ein his-gwmnïau, ein prif gwmni daliannol a’i is-gwmnïau, fel y dyffinnir yn adran 736 o Ddeddf Cwmnïau’r DU 1985.

Efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon:

  • Os byddwn yn gwerthu neu yn prynu unrhyw fusnes neu asedau, ac os felly, efallai y byddwn yn datgelu eich data personol i ddarpar brynwr busnes neu asedau o’r fath.
  • Os yw Golwg Newydd neu’r cyfan sylweddol o’i asedau yn cael eu caffael gan drydydd parti, ac os felly bydd data personol y mae’n ei gadw am ei gwsmeriaid yn un o’r asedau a drosglwyddir.
  • Os oes dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, neu er mwyn gorfodi neu gymhwyso ein telerau defnyddio a chytundebau eraill; neu i amddiffyn hawliau, eiddo, neu ddiogelwch Golwg Newydd, ein cwsmeriaid, neu eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth â chwmnïau a sefydliadau eraill at ddibenion diogelu twyll.

Eich hawliau

Mae gennych hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol at ddibenion marchnata. Byddwn fel arfer yn eich hysbysu (cyn casglu eich data) os ydym yn bwriadu defnyddio eich data at ddibenion o’r fath neu os ydym yn bwriadu datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti at ddibenion o’r fath. Gallwch ymarfer eich hawl i atal prosesu o’r fath trwy wirio blychau penodol ar y ffurflenni yr ydym yn eu defnyddio i gasglu eich data. Gallwch hefyd ymarfer yr hawl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni yn cymorth@golwg.com.

Gall ein safle, o bryd i’w gilydd, gynnwys dolenni i wefannau ein rhwydweithiau partner, hysbysebwyr a chysylltiadau, ac oddi yno. Os byddwch yn dilyn dolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, noder bod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn. Dylech wirio’r polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn.

Mynediad i wybodaeth

Mae Deddf 1998 yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad i wybodaeth sy’n cael ei chadw amdanoch chi. Gellir ymarfer eich hawl i gael mynediad yn unol â’r Ddeddf. Gall unrhyw gais am fynediad olygu ffi o £10 i dalu ein costau yn darparu manylion yr wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch chi i chi.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau y gallwn eu gwneud i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, lle y bo’n briodol, fe’ch hysbysir chi dros yr e-bost.

Cyswllt

Dylid cyfeirio cwestiynau, sylwadau a cheisiadau yn ymwneud â’r polisi preifatrwydd hwn at cymorth@golwg.com.